Bydd angen i chi, neu’r person sy'n eich helpu, lenwi ein ffurflen i ddweud wrthon ni eich bod chi eisiau gwneud apêl neu hawliad .
Os oes gennych chi rywun yn eich helpu, yr enw rydyn ni’n ei roi ar y person hwnnw ydi 'cyfaill achos'. Mae’n rhaid i’ch cyfaill achos chi ddweud wrthon ni ei fod yn eich helpu chi drwy lenwi ac anfon ffurflen datganiad cyfaill achos.
Os nad oes gennych chi rywun i'ch helpu chi, neu os oes gennych chi gwestiwn neu os ydych chi'n methu llwytho ein ffurflenni a'n llyfrynnau i lawr, cofiwch ddweud wrthon ni. Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost, gyrru neges destun i ni neu drwy ein ffonio.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein dolenni i gysylltu â phobl eraill a fydd yn gallu eich helpu, er enghraifft Meic (dolen allanol) neu Gomisiynydd Plant Cymru (dolen allanol).
Ffurflenni
- Dweud wrthon ni os oes gennych chi Gyfaill Achos. Hon ydy'r ffurflen mae plant a phobl ifanc yn ei defnyddio neu y mae'r person sy’n eu helpu yn ei defnyddio i ddweud wrthon ni os oes ganddyn nhw gyfaill achos i'w helpu gyda’u hapêl neu eu hawliad. (Dweud wrthon ni os oes gennych chi Gyfaill Achos – Ffurflen TAAAC 24)
- Datganiad Cyfaill Achos. Ffurflen i’w defnyddio gan rywun sy’n gweithredu fel cyfaill achos ar ran plentyn neu berson ifanc i ddweud wrthon ni am eu haddasrwydd i helpu'r person ifanc. (Datganiad o Addasrwydd Cyfaill Achos, tystiolaeth o addasrwydd i weithredu fel cyfaill achos - Ffurflen TAAAC 26)
Llyfrynnau Canllaw
- Beth ydy Apêl? Llyfryn sy'n rhoi gwybodaeth bwysig i chi am apeliadau. (Beth ydy Apêl, llyfryn i blant a phobl ifanc - Llyfryn Canllaw TAAAC 22)
- Beth ydy Hawliad? Llyfryn sy'n rhoi gwybodaeth bwysig i chi am hawliadau. (Beth ydy Hawliad, llyfryn i blant a phobl ifanc - Llyfryn Canllaw TAAAC 23)
- Mynd i Wrandawiad Tribiwnlys. Llyfryn sy'n dweud wrthoch chi beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad tribiwnlys. (Mynd i Wrandawiad Tribiwnlys, llyfryn i blant a phobl ifanc - Llyfryn Canllaw TAAAC 27)
- Helpu Plant a Phobl Ifanc. Llyfryn sy’n sôn am y person sy’n eich helpu chi, gwybodaeth bwysig am helpu plant a phobl ifanc yn eu harddegau i wneud apêl neu hawliad. (Helpu Plant a Phobl Ifanc – Llyfryn Canllaw TAAAC 25)