Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc yn ei arddegau rydych chithau hefyd yn gallu gwneud apêl drosoch eich hun drwy ddweud wrthon ni eich bod yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â'ch addysg. Os mai dyna rydych ei eisiau, gallwch ofyn i oedolyn eich helpu i lenwi'r ffurflen apêl.
Mae ein ffurflenni a’n llyfrynnau canllaw ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y we drwy ddefnyddio’r dolenni isod, neu os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni. Rhaid cyflwyno apeliadau yn ysgrifenedig i TAAAC.
Ffurflenni
- Cais am Apêl. Pan fydd Awdurdod lleol yn gwneud penderfyniadau penodol am anghenion addysgol arbennig plentyn neu berson ifanc yn ei arddegau a bod y rhieni neu'r person ifanc yn anghytuno â'r penderfyniad, gallant wneud cais am apêl yn gofyn i TAAAC ystyried y penderfyniad. (Cais am Apêl – Ffurflen TAAAC 2)
- Tynnu apêl yn ôl. Gallwch lenwi ein ffurflen i roi gwybod i ni os ydych yn penderfynu nad ydych bellach am barhau â'r apêl. (Tynnu Apêl neu Hawliad yn ôl – Ffurflen TAAAC 14)
Llyfrynnau Canllaw
Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc yn ei arddegau, efallai y bydd y dudalen Plant a Phobl Ifanc ar ein gwefan yn ddefnyddiol. Gallwch ofyn i oedolyn eich helpu gyda’r apêl.
- Sut i Apelio. Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud apêl, terfynau amser pwysig ar gyfer gwneud yr apêl, y math o wybodaeth y mae angen i ni ei chael a beth sy'n digwydd ar ôl i'r apêl gael ei gwneud. (Sut i Apelio – Llyfryn Canllaw TAAAC 1)
- Rydw i wedi gwneud apêl; sut mae paratoi Datganiad Achos? Ar ôl i chi wneud eich apêl, byddwn yn gofyn ichi adael i ni gael eich datganiad achos. Mae ein llyfryn canllaw yn esbonio sut mae paratoi datganiad achos a pha wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni. (Rydw i wedi gwneud apêl; sut mae paratoi Datganiad Achos? - Llyfryn Canllaw TAAAC 5)