Canllawiau a ffurflenni

Mae gwybodaeth ynghylch pa bryd a sut rydych yn gallu gwneud apêl neu gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) ar gael yn ein llyfrynnau canllaw.

Gallwch naill ai lawrlwytho’r llyfrynnau canllaw a’r ffurflenni cais o’r wefan hon, neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni. Dylech anfon ffurflenni wedi’u cwblhau yn ôl i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Apeliadau

Mae rhieni yn gallu apelio i TAAAC yn erbyn rhai penderfyniadau penodol y mae Awdurdod Lleol yng Nghymru yn eu gwneud ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig eu plentyn.

Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc yn eich arddegau, rydych chithau hefyd yn gallu gwneud apêl drosoch eich hun drwy ddweud wrthon ni eich bod yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â'ch addysg.  Mae’n rhaid i chi ysgrifennu aton ni i ddweud hyn felly efallai y byddech chi’n gallu gofyn i oedolyn eich helpu. 

Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol ddweud wrthoch chi (rhieni a’r person ifanc) am ei benderfyniad a pha bryd y mae gennych chi hawl i wneud apêl.

Hawliadau

Mae rhieni’n gallu cyflwyno hawliad i TAAAC ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru.

Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc yn eich arddegau, rydych chithau hefyd yn gallu cyflwyno hawliad drosoch eich hun drwy ddweud wrthon ni pam rydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg yn yr ysgol oherwydd anabledd neu am ryw reswm arall sy’n ymwneud ag anabledd.   Mae’n rhaid i chi ysgrifennu aton ni i ddweud hyn felly efallai y byddech chi’n gallu gofyn i oedolyn eich helpu.

Plant a phobl ifanc yn eu harddegau

Os ydych chi eisiau gwybod mwy, mae llwyth o wybodaeth am apeliadau, hawliadau a dod i wrandawiad tribiwnlys ar gael i blant a phobl ifanc ar ein tudalen. Rydym hefyd yn dweud wrthoch chi sut i gysylltu â ni neu gyda phobl eraill a fyddai’n gallu eich helpu.

Awdurdodau Lleol a Chyrff Cyfrifol

Mae ein llyfrynnau canllaw yn rhoi gwybodaeth i Awdurdodau Lleol am sut i ymateb i apêl a gwybodaeth i Gyrff Cyfrifol ynghylch sut i ymateb i hawliad.

Tribiwnlys Aled a gwrandawiadau tribiwnlys

Mae ein clip fideo yn dangos i chi beth sy’n digwydd yng ngwrandawiad tribiwnlys Aled. Bydd angen i chi lenwi ein ffurflen i ddweud wrthon ni pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad tribiwnlys.