Cwestiynau Cyffredin

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, rydym wedi trefnu ein cwestiynau mwyaf cyffredin a'r atebion yn benawdau pwnc.

Dewiswch pwnc isod:

Apeliadau AAA

Penderfynu a ddylid gwneud apêl

Pryd y gallaf apelio i’r tribiwnlys?

Mae terfyn amser o ddau fis ar gyfer apelio atom ni. Rhaid i ni dderbyn eich apêl heb fod yn hwyrach na dau fis o'r dyddiad pan hysbysodd yr Awdurdod Lleol chi mewn llythyr am ei benderfyniad terfynol.

Os ydych yn defnyddio Gwasanaeth Datrys Anghytundebau (GDA) neu os cewch eich cyfeirio ato cyn y daw'r ddau fis i ben, yna gallai'r terfyn amser gael ei ymestyn. Mae'n rhaid i'ch Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at ei Wasanaeth Datrys Anghytundebau annibynnol. Mae'n bwysig eich bod yn gofyn i TAAAC am unrhyw estyniad i'r terfyn amser cyn i'r ddau fis ddod i ben.

Beth alla' i apelio yn ei gylch?

Gallwch apelio os yw'r Awdurdod Lleol:

  • yn gwrthod cynnal asesiad statudol o anghenion addysgol arbennig eich plentyn
  • yn gwrthod ailasesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn
  • yn gwrthod gwneud datganiad o anghenion addysgol arbennig eich plentyn, ar ôl asesiad statudol
  • yn penderfynu peidio â chynnal (yn penderfynu dileu) datganiad eich plentyn
  • yn gwrthod newid yr ysgol a enwir yn natganiad eich plentyn, os yw'r datganiad yn flwydd oed o leiaf, ac na wnaed cais blaenorol yn ystod y 12 mis diwethaf (gallwch ofyn am ysgol sy'n cael ei hariannu gan awdurdod lleol yn unig). Mae hyn wedi'i gyfyngu i'r un math o ysgol â'r ysgol a enwir yn y datganiad ac nid yw'n bosibl gofyn i ni newid Rhannau 2 neu 3 y datganiad
  • yn penderfynu peidio â newid y datganiad ar ôl ailasesu eich plentyn
  • wedi gwneud datganiad, neu wedi newid datganiad blaenorol, ac rydych yn anghytuno ag un neu fwy o'r canlynol.
  • Y rhan sy'n disgrifio anghenion addysgol arbennig eich plentyn (Rhan 2).
  • Y rhan sy'n nodi'r ddarpariaeth addysgol arbennig (help) mae'r Awdurdod Lleol yn credu y dylai eich plentyn ei dderbyn (Rhan 3).
  • Yr ysgol neu'r math o ysgol a enwir yn y datganiad (Rhan 4).
  • Nad yw'r Awdurdod Lleol yn enwi ysgol (Rhan 4).

A oes unrhyw faterion na allai TAAAC ymdrin â nhw?

Ni allwn ymdrin â'r canlynol.

  • Yr Awdurdod Lleol yn penderfynu peidio â diwygio'r datganiad ar ôl adolygiad blynyddol.
  • Y ffordd y cyflawnodd yr Awdurdod Lleol yr asesiad, neu faint o amser a gymerodd.
  • Sut mae'r Awdurdod Lleol neu'r ysgol yn trefnu i ddarparu'r cymorth a nodir yn natganiad eich plentyn.
  • Y ffordd mae'r ysgol yn diwallu anghenion eich plentyn ar lefel Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.
  • Y disgrifiad, yn Rhannau 5 a 6 y datganiad, anghenion anaddysgol eich plentyn neu sut y mae'r Awdurdod Lleol yn bwriadu bodloni'r anghenion hynny.

A allai plant wneud eu hapêl eu hunain?

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 yn rhoi’r hawl i blant wneud eu hapêl neu hawliadau eu hunain i TAAAC.

Ni fydd hawliau presennol rhieni yn cael eu heffeithio gan yr hawl newydd i blant wneud eu hapêl eu hunain. Gall rhiant/gofalwr ddal i wneud apêl p’run ai yw eu plentyn yn gwneud un ai peidio.

Mae llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Beth arall ddylwn i ei wneud?

Hyd yn oed os ydych yn apelio dylech siarad â'ch Awdurdod Lleol i geisio dod i gytundeb. Mae'n rhaid i bob Awdurdod Lleol fod â Gwasanaethau Datrys Anghytundebau Annibynnol (GDA). Mae'r gwasanaeth yn ymdrin ag anghydfodau rhwng rhieni/gofalwyr, yr Awdurdod Lleol ac ysgolion mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig. Mae'n rhaid i'ch Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at ei Wasanaeth Datrys Anghytundebau annibynnol.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio'r Gwasanaethau Datrys Anghytundebau ar ôl i apêl gael ei chofrestru gallwch wneud cais i Lywydd y Tribiwnlys i atal yr apêl am gyfnod o amser. Gallech, er enghraifft, ddymuno atal yr apêl yn ystod y cyfnod y bydd cyfarfodydd y Gwasanaethau Datrys Anghytundebau yn cael eu cynnal.

Pa gymorth sydd ar gael i mi?

Dylai'r Awdurdod Lleol fod wedi dweud wrthych am y grwpiau canlynol y gallech fod yn cael cyngor ganddyn nhw.

  • Sefydliad gwirfoddol sy'n helpu pobl ag anghenion arbennig.
  • Grŵp i rieni/gofalwyr.
  • Cefnogwr rhieni annibynnol.
  • Cynghorydd partneriaeth gyda rheini.

Dylai'r Awdurdod Lleol hefyd fod wedi dweud wrthych am ei swyddog penodol y gallwch weithio gydag ef/hi i geisio datrys y materion yr ydych yn apelio yn eu herbyn. Gall y grwpiau uchod a'ch swyddog Awdurdod Lleol eich rhoi mewn cysylltiad â chefnogwr annibynnol neu gynrychiolydd.

A allaf i gael Cymorth Cyfreithiol i helpu fy apêl?

Efallai bod gennych hawl i gael Cymorth Cyfreithiol (neu arian cyhoeddus) i’ch helpu i baratoi eich apêl. Bydd cyfreithiwr yn gallu’ch cynghori ynghylch a oes hawl gennych. Bydd modd i Gymdeithas y Gyfraith neu’ch swyddfa leol Cyngor ar Bopeth roi enwau cyfreithwyr i chi sy’n rhan o’r cynllun Cymorth Cyfreithiol ac sydd â phrofiad yn y materion hyn. Ni fydd cyllid cyhoeddus ar gael i dalu am gyfreithiwr i’ch cynrychioli yn y gwrandawiad.

Pa benderfyniadau y gall TAAAC eu gwneud?

Os bydd y Tribiwnlys yn cytuno gydag apêl mae ganddo'r pŵer i wneud Gorchymyn. Bydd y Gorchymyn yn cael ei ysgrifennu ym mhenderfyniad y Tribiwnlys.

Yn dibynnu ar y math o apêl gallai Gorchymyn fod yn un neu fwy o'r canlynol.

  • I gynnal asesiad neu ailasesiad.
  • I wneud datganiad.
  • I newid y datganiad.
  • I newid yr ysgol a enwir yn unol â dymuniadau'r rhieni/gofalwyr.
  • I barhau datganiad.
  • I ddileu (rhoi'r gorau i gynnal) datganiad.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gwblhau’ch gorchymyn o fewn amser penodol yn dechrau o ddyddiad cyhoeddi’r penderfyniad.

Mae llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Os nad yw TAAAC yn cytuno â'r apêl, bydd yn ei gwrthod, gan ei dwyn i ben.

Faint o amser mae hyn i gyd yn ei gymryd?

Mae'r broses o apelio, o'r adeg y byddwn yn derbyn eich apêl at pryd y cynhelir y gwrandawiad ac y gwneir penderfyniad, fel arfer yn cymryd pedwar i bum mis. Gallai gymryd mwy o amser gan ddibynnu ar y math o achos a pha mor gymhleth ydyw.

A oes rhaid i mi dalu unrhyw beth?

Nid yw TAAAC yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

Gwneud apêl

Pryd fydd yn rhaid i mi wneud fy apêl ac a oes unrhyw derfynau amser?

Mae terfyn amser o ddau fis ar gyfer apelio atom ni. Rhaid i ni dderbyn eich apêl heb fod yn hwyrach na dau fis o'r dyddiad pan hysbysodd yr Awdurdod Lleol chi mewn llythyr am ei benderfyniad terfynol.

Os ydych yn defnyddio Gwasanaeth Datrys Anghytundebau (GDA) neu os cewch eich cyfeirio ato cyn y daw'r ddau fis i ben, yna gallai'r terfyn amser ar gyfer gwneud apêl gael ei ymestyn. Mae'n rhaid i'ch Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at ei Wasanaeth Datrys Anghytundebau annibynnol. Mae'n bwysig eich bod yn gofyn i TAAAC am yr estyniad cyn i'r terfyn amser o ddau fis ddod i ben.

Pwy sy'n gallu gwneud apêl?

Dim ond rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant neu ofal am y plentyn o fewn diffiniad Deddf Addysg 1996, sy'n gallu gwneud apêl.

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 yn rhoi’r hawl i blant wneud eu hapêl eu hunain i TAAAC.

Sut y dylwn i apelio?

Er mwyn gwneud apêl mae'n rhaid i chi lenwi ac anfon cais am apêl at TAAAC. Gellir anfon ceisiadau atom yn y post neu drwy e-bost.

Beth sydd angen i mi ddweud wrthych amdano?

Mae gwybodaeth am beth sy’n rhaid i chi ei ddweud fel rhan o’ch apêl i’w weld yn y llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Pa ddogfennau y dylwn i eu hanfon gyda'r cais am apêl?

Ym mhob achos, bydd angen i chi anfon y canlynol atom:

  • llythyr yn cadarnhau eich bod wedi dweud wrth yr holl bobl a sefydliadau sydd wedi neu sy'n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu wedi gofalu am y plentyn, eich bod yn bwriadu gwneud apêl;
  • llythyr gan roi'r rhesymau pam nad ydych wedi hysbysu pob person neu wedi peidio â darparu enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau;
  • y dogfennau y byddwch yn dibynnu arnynt i gefnogi eich apêl.

Os yw'r apêl yn ymwneud â'r ysgol yr ydych am iddi gael ei henwi yn y datganiad, rhaid i chi anfon atom naill ai:

(a) Os yw'r ysgol yn cael ei chynnal (ei hariannu) gan yr Awdurdod Lleol:

  • copi o'ch llythyr at Bennaeth yr ysgol yn dweud y byddech yn hoffi i'r ysgol gael ei henwi yn y datganiad
  • copi o'ch llythyr at yr Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am gynnal (cyllido) yr ysgol yn dweud y byddech yn hoffi i'r ysgol gael ei henwi yn y datganiad

(b) Os yw'r ysgol yn ysgol annibynnol (ysgol nad yw'n cael ei hariannu gan yr Awdurdod Lleol) neu yn ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal:

  • copi o'r llythyr o'r ysgol yn cadarnhau bod lle ar gael ar gyfer y plentyn.

A oes rhaid i mi anfon y cais am apêl fy hun?

Nac oes, ond mae'n rhaid i'r cais am apêl gael ei lofnodi gennych chi (hynny yw'r person sy'n gwneud y cais am apêl) neu eich cynrychiolydd ar eich rhan os ydych wedi rhoi caniatâd iddo wneud hynny.

Pan fydd apêl yn cael ei gwneud gan blentyn, rhaid i'r cais am apêl gael ei lofnodi gan y plentyn neu gyfaill achos y plentyn.

Alla' i anfon y cais am apêl drwy e-bost?

Oes Rhaid i geisiadau am apêl sy'n cael eu hanfon drwy e-bost gynnwys llofnod electronig y rhiant sy'n gwneud yr apêl neu, os rhoddir caniatâd, llofnod electronig ei gynrychiolydd.

Rhaid i geisiadau am apêl a wnaed gan y plentyn ac a anfonwyd drwy e-bost gynnwys llofnod electronig y plentyn neu gyfaill achos y plentyn.

Beth sy'n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich cais am apêl?

Os gallwn ymdrin â'ch apêl, byddwn yn:

  • ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn eich apêl i ddweud wrthych ein bod wedi ei chofrestru
  • ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol i ddweud wrthyn nhw ein bod wedi cofrestru'r apêl ac i anfon copi o'ch apêl atyn nhw

Yna byddwch chi a'r Awdurdod Lleol yn cael 30 diwrnod gwaith i anfon unrhyw dystiolaeth bellach y dymunwch i ni edrych arni fel rhan o'r apêl. Rydym yn galw hyn yn ddatganiad achos.

Os na allwn gofrestru eich apêl:

  • byddwn yn ysgrifennu atoch fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn eich apêl i ddweud wrthych pam na allwn ei chofrestru
  • os bydd arnom angen mwy o wybodaeth am eich apêl, byddwn yn dweud wrthych beth fydd arnom ei angen ac yn rhoi 10 diwrnod gwaith i chi ei hanfon atom.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n dymuno tynnu'r apêl yn ôl?

Os byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau â'r apêl, gallwch ei thynnu'n ôl yn ystod unrhyw gam yn y broses. I dynnu eich apêl yn ôl, mae angen i chi ddweud hyn wrthym yn ysgrifenedig, trwy e-bost neu mewn llythyr.

Beth os oes gennyf unrhyw anghenion eraill?

Gofalwch eich bod yn rhoi manylion am unrhyw anghenion ychwanegol pan fyddwch yn anfon eich cais am apêl atom. Er enghraifft, dylech ddweud os oes arnoch angen arwyddwr neu gyfieithydd yn y gwrandawiad, neu os oes arnoch angen gwneud unrhyw drefniadau ychwanegol er mwyn i chi ddod i'r gwrandawiad.

Paratoi datganiad achos: canllaw i rieni

Beth yw datganiad achos?

Mae eich datganiad achos yn gyfle i chi anfon rhagor o wybodaeth atom. Gall hyn fod yn unrhyw wybodaeth a thystiolaeth y dymunwch i ni edrych arni fel rhan o'ch apêl.

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud ein bod wedi cofrestru eich apêl, byddwn hefyd yn dweud wrthych:

  • y dyddiad, pryd bydd rhaid i ni gael eich datganiad achos. (Bydd gennych 30 diwrnod gwaith i anfon eich datganiad achos atom)
  • y dyddiad, pryd bydd angen i ni gael eich ffurflen presenoldeb wedi'i chwblhau, i ddweud wrthym pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad.

Pan fyddwn yn cofrestru eich apêl byddwn yn anfon copi at yr Awdurdod Lleol. Byddwn hefyd yn rhoi 30 diwrnod gwaith i'r Awdurdod Lleol anfon ei ddatganiad achos atom.

A oes rhaid i mi wneud datganiad achos?

Oes, fel isafswm rhaid i chi anfon y wybodaeth ganlynol atom fel rhan o'ch datganiad achos.

Ym mhob achos lle gwnaed yr apêl gan riant/gofalwr y plentyn, mae'n rhaid i'ch datganiad achos gynnwys y canlynol:

  • barn y plentyn am y materion sy'n ymwneud â'r apêl; neu
  • y rhesymau pam na nodwyd y farn hon.

Lle gwnaed yr apêl gan y plentyn neu gyfaill achos y plentyn bydd angen:

  • barn rhiant y plentyn am y materion a godwyd yn yr apêl; neu
  • y rhesymau pam na nodwyd eu barn.

Mae'n ofyniad yn ôl Rheoliadau'r Tribiwnlys fod barn y plentyn neu'r rhiant/gofalwr, yn dibynnu ar bwy sydd wedi gwneud yr apêl, yn cael eu darparu. Bydd panel y Tribiwnlys yn disgwyl i'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn eich datganiad achos oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn anfon datganiad achos neu eich bod yn derbyn y datganiad achos ar ôl y dyddiad cau?

Mae yna gyfyngiadau ar dderbyn tystiolaeth ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos fynd heibio. Gallwch wneud cais ysgrifenedig y Lywydd y Tribiwnlys ymestyn y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno datganiad achos.

Beth os na allaf gael gafael ar ddogfen gan yr Awdurdod Lleol sy'n berthnasol ac yn bwysig i'm hachos?

Os byddwch yn gwneud cais i ni mewn da bryd cyn y gwrandawiad, efallai y byddwn yn gallu gwneud gorchymyn er mwyn cael yr Awdurdod Lleol i'w rhyddhau.

Beth fydd yr Awdurdod Lleol yn ei wneud am fy apêl?

Bydd yr Awdurdod Lleol yn cael yr un 30 diwrnod gwaith â chi i anfon ei datganiad achos a'i dystiolaeth.

Rhaid i ddatganiad achos yr Awdurdod Lleol ddweud pa un a ydyn nhw’n gwrthwynebu eich apêl ai peidio ac, os ydyn nhw, mae'n rhaid iddyn nhw roi rhesymau pam. Mae'n rhaid iddyn nhw hefyd ddweud wrthym am y canlynol:

  • eu rhesymau dros wrthwynebu'r apêl;
  • crynodeb o'r ffeithiau;
  • y camau a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod, os cymerwyd rhai o gwbl.

Rhaid i'r Awdurdod Lleol anfon copi o'i lythyr penderfyniad terfynol gyda'i ddatganiad achos, ac os oes un, copi o'r datganiad o anghenion addysgol arbennig a'r adolygiad diweddaraf.

Rhaid i'r Awdurdod Lleol hefyd ddweud wrthym am farn y plentyn am y materion sy'n ymwneud â'r apêl, neu'r rhesymau pam nad ydyn nhw wedi darparu barn.

Yn gyffredinol, rhaid i Awdurdodau Lleol gael gwybod barn plant lle bynnag y bo modd. Gallan nhw hefyd gysylltu â chi am yr apêl oherwydd gallan nhw fod wedi edrych ar y dystiolaeth eto a gallan nhw fod yn teimlo y gallent ddarparu rhywfaint neu'r cyfan o'r hyn y mae arnoch ei eisiau.

Beth fydd yn digwydd os nad yw'r Awdurdod Lleol yn anfon datganiad achos atom?

Os nad yw'r Awdurdod Lleol yn anfon ymateb erbyn diwedd yr amser sydd ganddyn nhw i ateb, gallwn wneud nifer o bethau, gan gynnwys eu hatal rhag cymryd rhan bellach yn yr apêl.

Cyn penderfynu beth i'w wneud, byddwn yn ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn gofyn am esboniad ynghylch pam nad ydyn nhw wedi ymateb, neu pam nad ydyn nhw wedi ymateb mewn pryd.

Bydd Llywydd neu gadeirydd y Tribiwnlys yn ystyried unrhyw ateb mae'r Awdurdod Lleol yn ei roi ac yn penderfynu beth ddylai ddigwydd. Os yw'r Awdurdod Lleol yn cael ei wahardd rhag cyfranogiad pellach, byddwn yn penderfynu a ellir ymdrin â'ch achos ar y Cais am Apêl ac unrhyw ddogfennau eraill a dderbynnir neu a ddiwygir, neu a ddylid bod â gwrandawiad o hyd, ond heb yr Awdurdod Lleol.

Beth fydd yn digwydd os nad yw'r Awdurdod Lleol yn gwrthwynebu'r apêl?

Bydd hyn yn dibynnu ar destun eich apêl.

Os yw'r Awdurdod Lleol yn cytuno i newid cynnwys y datganiad, rhaid iddo ysgrifennu atom i ddweud wrthym am y newidiadau mae'n cytuno eu gwneud. Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn a ydych yn dymuno tynnu eich apêl yn ôl. Os byddwch yn tynnu'n ôl, bydd eich apêl yn dod i ben.

Os ydych am barhau â'r apêl byddwn yn ei throsglwyddo i banel Tribiwnlys a fydd yn penderfynu ar yr apêl. Bydd panel y Tribiwnlys yn penderfynu ar yr apêl naill ai drwy edrych ar y wybodaeth a roddwyd gennych yn barod neu trwy gynnal gwrandawiad na fydd yr Awdurdod Lleol o bosibl yn gallu bod yn bresennol ynddo.

Os bydd eich apêl am benderfyniad i beidio ag asesu neu ailasesu, peidio â rhoi datganiad, peidio â newid yr ysgol a enwir mewn datganiad sydd dros flwydd oed neu beidio â chynnal datganiad mwyach, ac nad yw'r Awdurdod Lleol yn ei wrthwynebu, bydd eich apêl yn dod i ben. Bydd yn rhaid i'r Awdurdod Lleol wneud yr hyn mae wedi cytuno i'w wneud o fewn terfyn amser penodol.

Beth sy'n digwydd i'r datganiad achos?

Unwaith bydd y dyddiad cau ar gyfer anfon datganiadau achos wedi mynd heibio, byddwn yn anfon copi o'r holl bapurau a gawsom am yr apêl atoch chi a'r Awdurdod Lleol.

Alla' i anfon mwy o ddogfennau ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos?

Gelwir tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos yn dystiolaeth ysgrifenedig hwyr. Mae yna gyfyngiadau ar dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig yn hwyr.

Mae gwybodaeth ar gael am y rheolau tystiolaeth hwyr yn adran Tystiolaeth Hwyr y cwestiynau cyffredin hyn.

Pa wybodaeth arall bwysig mae angen i chi ddweud wrthym amdani?

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am y dyddiad cau ar gyfer anfon eich datganiad achos byddwn hefyd yn gofyn i chi roi gwybodaeth i ni y bydd arnom ei hangen i drefnu'r gwrandawiad.

Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am ddyddiadau pan fyddwch chi a'ch cynrychiolwyr a thystion ar gael i fynychu gwrandawiad. Byddwn yn rhoi terfyn amser ar gyfer anfon y wybodaeth hon atom. Os na fyddwn yn clywed gennych, byddwn yn mynd ymlaen ac yn gosod dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddweud wrthym pwy fydd yn dod i'r gwrandawiad gyda chi. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r wybodaeth hon i ni cyn y gwrandawiad. Efallai na fydd unrhyw un sydd heb ei restru cyn y gwrandawiad yn cael caniatâd i ddod i mewn i'r gwrandawiad. Bydd angen i chi ddweud wrthym hefyd os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i'r bobl yr ydych yn dymuno iddynt fynychu'r gwrandawiad. Os na fyddwch yn gwneud hynny efallai na fyddan nhw’n cael caniatâd i fynd i mewn i'r gwrandawiad.

Paratoi datganiad achos: canllaw i Awdurdodau Lleol

Beth fydd yn digwydd ar ôl gwneud apel i TAAAC?

Byddwn yn cofrestru’r apêl os gallwn ym drin â hi. Byddwn yn ysgrifennu at swyddog enwebedig yr awdurdod lleol ac yn amgáu copi o’r apêl. Byddwn yn nodi’r terfyn amser, sef 30 niwrnod, i chi anfon datganiad achos yr awdurdod lleol ac unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei defnyddio. Bydd y rhieni yn cael yr faint o amser i anfon eu datganiad achos atom.

Ar ddiwedd y cyfnod datganiad achos, byddwn yn anfon set o’r holl bapurau gyda rhif tudalennau at yr awdurdod lleol a’r rhieni. Bydd yn rhaid dod â’r rhain i’r gwrandawiad.

Byddwn yn trefnu gwrandawiad lle bydd panel tribiwnlys yn ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, yn ogystal ag unrhyw beth sydd gan yr awdurdod lleol, y rhieni a’r tystion perthnasol i’w ddweud.

Byddwn yn ceisio cyhoeddi ein penderfyniad o fewn tua 10 diwrnod gwaith wedi’r gwrandawiad.

Mae’r broses gyfan yn cymryd tua pedwar i bum mis, o dderbyn apêl i wneud penderfyniad. Weithiau gall mwy o amser mewn achos cymhleth. Cyn y gwrandawiad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad achos ysgrifenedig atom. Mae manylion am y cynnwys i’w gweld yn ein llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

A oes terfyn amser ar gyfer datganiadau achos?

Mae terfyn amser llym i ni o ran derbyn datganiad achos ac unrhyw dystiolaeth arall gan yr awdurdod lleol. Byddwn yn ysgrifennu at swyddog enwebedig yr awdurdod lleol i ddweud pryd fydd hyn. Fel arfer, bydd gennych 30 diwrnod gwaith.

Os na fydd yr awdurdod lleol yn anfon datganiad achos neu os na fyddwn yn ei dderbyn o fewn y terfyn amser, gallwn benderfynu ar yr apêl ar sail y papurau a gyflwynir gan y rhiant yn unig neu gynnal gwrandawiad lle na chaiff yr awdurdod lleol fod yn bresennol.

Beth yw’r gofynion yn ôl rheoliadau’r Tribiwnlys?

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon y canlynol i swyddfa TAAAC cyn diwedd y cyfnod datganiad achos:

  • copi o’r llythyr penderfyniad sy’n destun anghydfod
  • copi o ddatganiad anghenion addysgol arbennig y plentyn, os oes ganddo un, unrhyw ddogfennaeth sydd ynghlwm â’r datganiad neu sy’n rhan ohono a chopi o’r adolygiad diweddaraf
  • yr holl dystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio ond sydd heb ei chyflwyno hyd yn hyn
  • datganiad achos

    mae’n rhaid i’r datganiad achos ddatgan p’un a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu gwrthwynebu’r apêl
    - mae’n rhaid bod y datganiad achos wedi’i lofnodi gan berson sydd ag awdurdod i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran yr awdurdod lleol

Os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu gwrthwynebu’r apêl, mae’n rhaid i’r datganiad achos nodi:

  • ar ba sail y mae’n gwrthwynebu’r apêl neu ran o’r apêl
  • crynodeb o’r ffeithiau
  • y rhesymau dros yr anghydfod ynghylch y penderfyniad
  • y camau a gymerwyd i ddatrys yr anghydfod, os cymerwyd camau o gwbl
  • barn y plentyn ynghylch y materion a godwyd yn yr apêl, neu
  • esboniad pam nad yw’r awdurdod lleol wedi canfod beth yw barn y plentyn
  • enw a chyfeiriad cynrychiolydd yr awdurdod lleol
  • i ba gyfeiriad y dylid anfon dogfennau ar gyfer yr awdurdod lleol.

Pa wybodaeth y mae angen i’r awdurdod lleol ei chynnwys yn y datganiad achos?

Mae manylion am yr hyn y dylai’r awdurdod lleol ei roi yn y datganiad achos i’w gweld yn ein llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

A all yr awdurdod lleol ofyn i fwrw apêl allan?

Oes, mae modd i’r awdurdod lleol wneud cais am resymau cyfyngedig i fwrw apêl allan. Os bydd y Tribiwnlys yn bwrw’r apêl allan, bydd yn dod i ben.

Dyma’r unig resymau dros fwrw apêl allan:

  • nid yw wedi’i gwneud yn unol â rheoliadau’r Tribiwnlys;
  • nid yw, neu nid yw bellach, o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;
  • nid yw’n dangos unrhyw sail resymegol; a/neu
  • mae’n camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

Mae’n rhaid gwneud cais ysgrifenedig i fwrw apêl allan, gan nodi’n llawn y rhesymau dros hyn.

Beth ddylai’r awdurdod lleol ei wneud os bydd yn dod i gytundeb gyda’r rheini ar ran o’r apêl?

Mae apeliadau’n dod atom dim ond os yw’r rhiant yn anghytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol, ond mae’n ddigon derbyniol i drafodaethau barhau rhwng y rhiant a’r awdurdod lleol ar ôl gwneud yr apêl. Byddai’n ddefnyddiol pe gal;lech ddweud wrthym am unrhyw rannau o’r apêl rydych chi a’r rhiant wedi’u datrys wedi i ni dderbyn yr apêl.

Hawliadau ynglyn â wahaniaethau ar sail anabledd

Penderfynu a ddylid gwneud hawliad

Beth yw anabledd?

Cyn y gall TAAAC benderfynu a fu gwahaniaethu ar sail anabledd bydd angen i ni fod yn sicr bod:

  • gan eich plentyn anabledd neu mae wedi bod ag anabledd
  • bod eich hawliad yn seiliedig ar gysylltiad ag unigolyn anabl; neu
  • ganfyddiad bod gan eich plentyn anabledd.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud mai anabledd yw nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Mae sylweddol yn golygu mwy nag effaith bitw neu fach. Mae tymor hir yn golygu bod effaith y cyflwr yn debygol o bara am oes neu bara am o leiaf 12 mis neu fwy i gyd a gallai gynnwys cyflyrau cylchol neu ysbeidiol.

Beth yw gwahaniaethu ar sail anabledd?

Mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn digwydd pan fydd person yn cael ei drin yn waeth (llai ffafriol neu anffafriol) na rhywun arall oherwydd anabledd.

Gall gwahaniaethu ar sail anabledd hefyd ddigwydd pan fydd rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau wedi eu rhoi ar waith sy'n rhoi grŵp penodol o ddisgyblion anabl o dan anfantais o'u cymharu â disgyblion nad ydynt yn anabl a bod person anabl yn cael ei roi o dan anfantais o ganlyniad.

Beth yw’r mathau o wahaniaethu?

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu bod pobl sydd ag anabledd neu sydd wedi bod ag anabledd yn cael eu diogelu rhag gwahanol fathau o wahaniaethu. Y rhain yw:

  • gwahaniaethu ar sail anabledd uniongyrchol
  • gwahaniaethu anuniongyrchol
  • gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd.

Yn ogystal, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu bod pobl sydd ag anabledd neu rai sydd mewn rhai achosion wedi bod ag anabledd yn cael eu diogelu rhag dau fath ychwanegol o ymddygiad. Y rhain yw:

  • aflonyddu sy'n gysylltiedig ag anabledd
  • erledigaeth sy'n gysylltiedig ag anabledd

Pryd mae modd cyfiawnhau gwahaniaethu?

Er y gall eich plentyn fod wedi ei drin yn anffafriol neu ei fod wedi cael ei roi o dan anfantais, efallai na fydd y gwahaniaethu yn anghyfreithlon os gall yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol ddangos bod cyfiawnhad am hynny.

Beth am y ddyletswydd i wneud addasiadau o fewn rheswm?

Mae'n rhaid i ysgolion ac Awdurdodau Lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw disgyblion anabl, gan gynnwys plant nad ydynt eto yn yr ysgol ac mewn rhai achosion cyn-ddisgyblion, yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â disgybl heb fod yn anabl.

Gallai cam rhesymol er enghraifft olygu diwygio polisi neu newid y ffordd y gwneir pethau.

Nid oes rhaid i ysgolion newid adeiladau. Mae hyn oherwydd bod gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wella mynediad i adeiladau dros gyfnod o amser.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol gynnwys rhwymedigaeth i ddarparu cymorth neu wasanaeth ategol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn diffinio cymorth neu wasanaeth ategol, fel unrhyw beth sy'n darparu cymorth ychwanegol neu gymorth i berson anabl (CCHD Deddf Cydraddoldeb 2010, Cod Ymarfer) fel offer cyfrifiadurol arbenigol, desgiau wedi’u haddasu neu therapi iaith a lleferydd.

A yw’n bosibl gwahaniaethu yn erbyn plentyn heb anabledd?

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu bod pobl heb anabledd yn cael eu diogelu rhag rhai mathau o ymddygiad anghyfreithlon, sef:

  • gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar gysylltiad
  • gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar ganfyddiad
  • aflonyddu sy'n gysylltiedig ag anabledd
  • erledigaeth sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Beth yw’r agweddau ar addysg sy’n dod o dan y Ddeddf Gydraddoldeb?

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu, aflonyddu ar neu erlid rhywun ar sail anabledd mewn perthynas â'r meysydd canlynol o fywyd yr ysgol:

Derbyniadau 
Addysg a mynediad i unrhyw fudd-dal, gwasanaeth a chyfleuster

Gwaharddiadau 
Cymorth a gwasanaethau atodol

Pa hawliadau y gall TAAAC ymdrin â nhw?

Mae TAAAC yn ymdrin â'r holl hawliadau sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd, aflonyddu ac erledigaeth yn erbyn ysgolion yng Nghymru, ac eithrio hawliadau am:

  • benderfyniadau derbyn disgyblion ysgolion a gynhelir (mae'r rhain yn cael eu clywed gan banel apêl ynghylch derbyn disgyblion ar hyn o bryd)
  • gwaharddiadau parhaol o ysgolion a gynhelir (mae'r rhain yn cael eu clywed gan baneli apeliadau gwahardd ar hyn o bryd).

Sut gallaf gael gwybodaeth am fy achos?

Os credwch fod eich plentyn wedi dioddef gwahaniaethu, gallwch geisio cael gwybodaeth am eich achos gan yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol dan sylw.

Mae ffurflen holi ac ateb y gallwch ei defnyddio i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd.

Mae gan y ffurflen gwestiynau penodol.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio'r weithdrefn bydd angen i chi ofyn am wybodaeth yn ysgrifenedig gan yr Ysgol neu'r Awdurdod Lleol cyn i chi wneud cais i TAAAC neu o fewn 28 diwrnod o wneud cais.

Nid oes rhaid i'r ysgol na'r Awdurdod Lleol roi atebion i'ch cwestiynau, ond os na dderbynnir ateb o fewn 8 wythnos ar ôl anfon y cais neu os yw'r atebion yn aneglur, yna gall y Tribiwnlys gymryd hynny i ystyriaeth wrth wneud ei benderfyniad.

Os ydych yn derbyn ateb, efallai y bydd yr atebion yn eich helpu i benderfynu a oes gennych hawliad dilys neu beidio.

Os ydych yn penderfynu gwneud hawliad gallai'r atebion fod yn rhan o'r dystiolaeth.

Gallwch gael copi o'r ffurflen ac arweiniad gan Swyddfa Cydraddoldebau'r Llywodraeth (GEO)

A all plant wneud eu hawliadau eu hunain?

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 yn rhoi’r hawl i blant wneud eu hawliadau eu hunain i TAAAC.

Ni fydd yr hawl newydd i blant wneud eu hawliad eu hunain yn effeithio ar hawliau presennol rhieni. Gall rhiant/gofalwr wneud hawliad o hyd, p’un a yw eu plentyn yn gwneud un ai peidio.

Beth arall allaf i ei wneud?

Efallai yr hoffech ddefnyddio’r gweithdrefnau isod hefyd:

  • Trefn gwyno'r ysgolion;
  • Gwasanaethau Datrys Anghydfod Awdurdodau Lleol; a/neu
  • Wasanaeth Cymodi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD)

Ni fydd unrhyw un o’r gweithdrefnau hyn yn effaithio ar eich hawliad i TAAAC.

Pa gymorth allaf i ei gael?

Gallwch ofyn i'ch Awdurdod Lleol am y grwpiau canlynol y gallech gael cyngor ganddynt:

  • sefydliad gwirfoddol sy'n helpu pobl ag anghenion arbennig
  • grŵp i rieni
  • cefnogwr rhieni annibynnol
  • cynghorydd partneriaeth gyda rhieni

Gall y grwpiau uchod a'ch swyddog Awdurdod Lleol eich rhoi mewn cysylltiad â chefnogwr annibynnol neu gynrychiolydd.

Gall y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb roi gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol ynghylch gwahaniaethu, ac a oes arian cyhoeddus ar gael.
Ffôn: 0800 444 205
Ffôn testun: 0800 444 206
www.equalityadvisoryservice.com

Gallwn egluro beth mae angen i chi ei wneud os ydych yn penderfynu gwneud hawliad a gallwn ddweud wrthych beth fydd yn digwydd. Ni allwn ddweud wrthych a ddylech wneud hawliad na'ch cynghori ar beth i'w gynnwys yn eich hawliad.

A allaf i gael Cymorth Cyfreithiol i helpu fy apêl?

Efallai bod gennych hawl i gael Cymorth Cyfreithiol (neu arian cyhoeddus) i’ch helpu i baratoi eich apêl. Bydd cyfreithiwr yn gallu’ch cynghori ynghylch a oes hawl gennych. Bydd modd i Gymdeithas y Gyfraith neu’ch swyddfa leol Cyngor ar Bopeth roi enwau cyfreithwyr i chi sy’n rhan o’r cynllun Cymorth Cyfreithiol ac sydd â phrofiad yn y materion hyn. Ni fydd cyllid cyhoeddus ar gael i dalu am gyfreithiwr i’ch cynrychioli yn y gwrandawiad.

Beth y gall TAAAC ei wneud i unioni pethau?

Gallai TAAAC orchymyn i ddarparwyr addysg gymryd camau i helpu i wneud iawn am unrhyw gyfleoedd y mae eich plentyn wedi eu colli ac i helpu i atal gwahaniaethu yn erbyn disgyblion anabl yn y dyfodol.

Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • hyfforddiant ar gyfer staff a llywodraethwyr yr ysgol;
  • ysgrifennu canllawiau newydd ar gyfer staff a Llywodraethwyr;
  • gwneud diwygiadau i bolisïau'r ysgol neu'r Awdurdod Lleol;
  • darparu hyfforddiant ychwanegol i wneud iawn am ddysgu a gollwyd;
  • ymddiheuro i ddisgybl naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig;
  • darparu teithiau neu gyfleoedd eraill i wneud iawn am weithgareddau y gallai eich plentyn fod wedi'u colli.

Ni all TAAAC orchymyn talu iawndal.

Faint mae popeth yn ei gymryd?

Mae'r broses gyfan, o'r adeg y byddwn yn derbyn hawliad at wneud penderfyniad, fel arfer yn cymryd pedwar i bum mis. Gallai gymryd yn hirach gan ddibynnu ar y math o hawliad a pha mor gymhleth ydyw.

Oes angen i fi dalu unrhyw beth?

Nid yw TAAAC yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

Gwneud hawliad

Pryd fydd angen i fi wneud fy hawliad ac a oes unrhyw derfynau amser?

Mae yna chwe mis o derfyn amser ar gyfer gwneud hawliad i ni. Rhaid i ni dderbyn eich hawliad o fewn chwe mis i'r gwahaniaethu honedig.

Os ydych yn defnyddio Gwasanaeth Cymodi'r Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol (CCHD) neu os cewch eich cyfeirio ato cyn y daw'r ddau fis i ben, yna gallai'r terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad gael ei ymestyn. Mae'n bwysig eich bod yn gofyn i TAAAC am yr estyniad cyn i'r cyfyngiad amser o chwe mis ddod i ben.

Pwy sy'n gallu gwneud hawliad?

Dim ond rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant neu ofal am y plentyn o fewn diffiniad Deddf Addysg 1996, sy'n gallu gwneud hawliad.

Fodd bynnag, mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 yn rhoi’r hawl i blant wneud eu hawliadau eu hunain i TAAAC.

Ni fydd yr hawl newydd i blant wneud eu hawliadau eu hunain yn effeithio ar hawliau presennol rhieni. Gall rhiant/gofalwr wneud hawliad o hyd p’un a yw eu plentyn yn gwneud un ai peidio.

Mae ein llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

(Beth ydy hawliad?: Llyfryn i blant a phobl ifanc – Llyfryn Canllaw TAAAC 23)

Sut y dylwn i hawlio?

Er mwyn gwneud hawliad mae'n rhaid i chi lenwi ac anfon Cais am Hawliad at TAAAC. Gellir anfon ceisiadau atom yn y post neu drwy e-bost.

Mae’r ffurflen gais i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

(Cais am Hawliad – Ffurflen TAAAC 4)

A oes rhaid i mi anfon y Cais am Hawliad fy hun?

Nac oes, ond mae'n rhaid i'r Cais am Hawliad gael ei lofnodi gennych chi (hynny yw'r person sy'n gwneud y Cais am Hawliad) neu eich cynrychiolydd ar eich rhan os ydych wedi rhoi caniatâd iddyn nhw wneud hynny.

Pan fydd hawliad yn cael ei wneud gan blentyn, rhaid i'r Cais am Hawliad gael ei lofnodi gan y plentyn neu gyfaill achos y plentyn.

Alla' i anfon y Cais am Hawliad drwy e-bost?

Rhaid i Geisiadau am Hawliad sy'n cael eu hanfon drwy e-bost gynnwys llofnod electronig y rhiant/gofalwr sy'n gwneud yr hawliad neu, os rhoddir caniatâd llofnod electronig ei gynrychiolydd.

Mae’n rhaid bod cais a wneir gan blentyn a’i anfon drwy e-bost yn cynnwys llofnod electronig y plentyn neu gyfaill achos y plentyn.

Pwy mae'r hawliad yn ei erbyn?

Mae eich hawliad yn erbyn y Corff Cyfrifol. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar y math o achos. Fel arfer hwn yw naill ai Corff Llywodraethol yr Ysgol, yr Awdurdod Lleol neu berchennog yr ysgol dan sylw.

Y Corff Cyfrifol yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am yr ysgol. Nid oes angen i chiddweud wrthym pwy yw'r Corff Cyfrifol; y cyfan sydd angen i chi ei ddweud wrthym yw beth yw enw a chyfeiriad yr ysgol neu'r lle addysg lle y digwyddodd y gwahaniaethu honedig.

Os yw'r ysgol yn un a gynhelir (sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol) rhaid i chi hefyd ddweud wrthym enw'r Awdurdod Lleol.

Beth sydd angen i mi ddweud wrthych amdano?

Os byddwch yn gwneud cais bydd angen i chi ddweud wrthym am y canlynol:

  • Anabledd eich plentyn.
  • Os nad yw eich plentyn yn anabl, ym mha ffordd y mae'r gwahaniaethu honedig yn ymwneud â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd yn seiliedig ar gysylltiad neu ganfyddiad.
  • Beth a ddigwyddodd, a'r dyddiad neu'r dyddiadau pryd y digwyddodd y gwahaniaethu honedig.
  • Ym mha ffordd mae'r gwahaniaethu honedig yn ymwneud ag anabledd eich plentyn os oes ganddo un.
  • Ym mha ffordd mae eich plentyn wedi cael ei drin yn llai ffafriol neu ei osod o dan anfantais.
  • Yn achos gwahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu sy'n codi o anabledd, pam y credwch nad oedd cyfiawnhad dros y gwahaniaethu honedig.
  • Beth ydych chi'n gofyn i TAAAC ei wneud i unioni pethau.

Pa ddogfennau y dylwn i eu hanfon gyda'r Cais am Hawliad?

Ym mhob achos, bydd angen i chi anfon y canlynol atom:

  • llythyr yn cadarnhau eich bod wedi dweud wrth yr holl bobl a sefydliadau sydd wedi neu sy'n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sy'n gofalu am y plentyn, eich bod yn bwriadu gwneud hawliad.
  • llythyr gan roi'r rhesymau pam nad ydych wedi hysbysu pob person neu wedi peidio â darparu enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau.
  • y dogfennau y byddwch yn dibynnu arnyn nhw i gefnogi eich hawliad.
  • os ydych yn llenwi'r ffurflen gais yn llawn mae'n bosibl na fydd arnom angen unrhyw beth arall. Ond os ydych yn credu bod mwy o wybodaeth a fydd yn helpu TAAAC a'r Corff Cyfrifol i ddeall eich hawliad, anfonwch hi.

A oes rhaid i mi anfon dogfennau gwreiddiol gyda'r hawliad?

Gofalwch fod unrhyw ddogfennau a anfonwch atom yn llungopïau o'r gwreiddiol.

Beth sy'n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich Cais am Hawliad?

Os gallwn ymdrin â'ch hawliad, byddwn yn:

  • ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn eich hawliad i ddweud wrthych ein bod wedi ei gofrestru
  • ysgrifennu at y Corff Cyfrifol i ddweud wrthyn nhw ein bod wedi cofrestru'r hawliad ac i anfon copi o'ch hawliad atyn nhw

Yna bydd 30 diwrnod gwaith i chi a’r Corff Cyfrifol i anfon unrhyw dystiolaeth bellach y dymunwch i ni edrych arni fel rhan o'r hawliad. Rydym yn galw hyn yn ddatganiad achos.

Os na allwn gofrestru eich hawliad:

  • byddwn yn ysgrifennu atoch fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn eich hawliad i ddweud wrthych pam na allwn ei gofrestru
  • os bydd arnom angen mwy o wybodaeth am eich hawliad, byddwn yn dweud wrthych beth fydd arnom ei angen ac yn rhoi 10 diwrnod gwaith i chi ei hanfon atom.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n dymuno tynnu'r hawliad yn ôl?

Os byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau â'r hawliad, gallwch ei dynnu'n ôl yn ystod unrhyw gam yn y broses. I dynnu eich hawliad yn ôl, mae angen i chi ddweud hyn wrthym yn ysgrifenedig, trwy e-bost neu mewn llythyr.

Beth os oes gennyf unrhyw anghenion eraill?

Gofalwch eich bod yn rhoi manylion am unrhyw anghenion ychwanegol pan fyddwch yn anfon eich Cais am Hawliad atom. Er enghraifft, dylech ddweud os oes arnoch angen arwyddwr neu gyfieithydd yn y gwrandawiad, neu os oes arnoch angen gwneud unrhyw drefniadau ychwanegol er mwyn i chi ddod i'r gwrandawiad.

Cwblhau datganiad achos: canllaw i rieni

Beth yw datganiad achos?

Mae eich datganiad achos yn gyfle i chi anfon rhagor o wybodaeth atom. Gall hyn fod yn unrhyw wybodaeth a thystiolaeth y dymunwch i ni edrych arni fel rhan o'ch hawliad.

A oes rhaid i mi wneud datganiad achos?

Oes, fel isafswm rhaid i chi anfon y wybodaeth ganlynol atom fel rhan o'ch datganiad achos.

Ym mhob achos lle gwnaed yr hawliad gan riant y plentyn:

  • barn y plentyn am y materion a godwyd yn yr hawliad; neu
  • y rhesymau pam na nodwyd barn y plentyn.

Lle gwnaed yr hawliad gan y plentyn neu gyfaill achos y plentyn:

  • barn rhiant y plentyn am y materion a godwyd yn yr hawliad; neu
  • y rhesymau pam na nodwyd barn y plentyn.

Mae'n ofyniad yn ôl rheoliadau'r Tribiwnlys fod barn y plentyn neu'r rhiant/gofalwr, yn dibynnu ar bwy sydd wedi gwneud yr hawliad, yn cael ei rhoi. Bydd panel y Tribiwnlys yn disgwyl i'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn eich datganiad achos oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn anfon datganiad achos neu eich bod yn derbyn y datganiad achos ar ôl y dyddiad cau?

Mae yna gyfyngiadau ar dderbyn tystiolaeth a dderbynnir ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos fynd heibio.

Beth os na allaf gael gafael ar ddogfen gan Awdurdod Cyfrifol sy'n berthnasol ac yn bwysig i'm hachos?

Os byddwch yn gwneud cais i ni mewn da bryd cyn y gwrandawiad, efallai y byddwn yn gallu gwneud gorchymyn er mwyn cael y Corff Cyfrifol i'w rhyddhau.

Beth fydd y Corff Cyfrifol yn ei wneud am fy hawliad?

Bydd y Corff Cyfrifol yn cael yr un 30 diwrnod gwaith â chi i anfon ei ddatganiad achos a'i dystiolaeth atom.

Rhaid i ddatganiad achos y Corff Cyfrifol ddweud pa un a yw'n gwrthwynebu eich hawliad ai peidio ac, os yw, mae'n rhaid iddo roi rhesymau pam. Mae'n rhaid iddo hefyd ddweud wrthym am y canlynol:

  • ei resymau am ei weithredoedd;
  • crynodeb o'r ffeithiau a'r materion a deimla sy'n berthnasol i'r hawliad;
  • y camau a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod, os cymerwyd rhai o gwbl.

Rhaid i'r Corff Cyfrifol hefyd ddweud wrthym am farn y plentyn am y materion sy'n ymwneud â'r hawliad, neu'r rhesymau pam nad ydyn nhw wedi rhoi barn.

Yn gyffredinol, rhaid i Gyrff Cyfrifol gael gwybod beth yw barn plant lle bynnag y bo modd. Gallan nhw hefyd gysylltu â chi am yr hawliad oherwydd gallan nhw fod wedi edrych ar y dystiolaeth eto a gallan nhw fod yn teimlo y gallan nhw ddarparu rhywfaint neu'r cyfan o'r hyn y mae arnoch ei eisiau.

Beth fydd yn digwydd os nad yw'r Corff Cyfrifol yn anfon datganiad achos atom?

Os nad yw'r Corff Cyfrifol yn anfon ymateb erbyn diwedd yr amser sydd ganddo i ateb, gallwn wneud nifer o bethau, gan gynnwys ei atal rhag cymryd rhan bellach yn yr apêl.

Cyn penderfynu beth i'w wneud, byddwn yn ysgrifennu at y Corff Cyfrifol yn gofyn am esboniad ynghylch pam nad yw wedi ymateb, neu pam nad yw wedi ymateb mewn pryd.

Bydd Llywydd neu gadeirydd y Tribiwnlys yn ystyried unrhyw ateb mae'r Corff Cyfrifol yn ei roi ac yn penderfynu beth ddylai ddigwydd. Os yw'r Corff Cyfrifol yn cael ei wahardd rhag cyfranogiad pellach, byddwn yn penderfynu a ellir ymdrin â'ch achos gyda'r Cais am Hawliad ac unrhyw ddogfennau eraill a dderbynnir neu a ddiwygir, neu a ddylid bod â gwrandawiad o hyd, ond heb y Corff Cyfrifol.

Beth fydd yn digwydd os nad yw'r Corff Cyfrifol yn gwrthwynebu'r hawliad?

Os bydd y Corff Cyfrifol yn cytuno â'r hawliad yr ydych wedi ei wneud ac yn cytuno i weithredu i roi terfyn ar y gwahaniaethu, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn a ydych yn dymuno tynnu eich cais yn ôl. Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl bydd hynny yn dod ag ef i ben ac ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Os ydych am barhau â'r hawliad byddwn yn ei drosglwyddo i banel Tribiwnlys a fydd yn penderfynu ar yr hawliad. Bydd panel y Tribiwnlys yn penderfynu ar yr hawliad naill ai drwy edrych ar y wybodaeth a roddwyd gennych yn barod neu trwy gynnal gwrandawiad na fydd y Corff Cyfrifol o bosibl yn gallu bod yn bresennol ynddo.

Beth sy'n digwydd i'r datganiad achos?

Unwaith y bydd y dyddiad cau ar gyfer anfon datganiadau achos wedi mynd heibio, byddwn yn anfon copi o'r holl bapurau a gawsom am yr hawliad atoch chi a'r Corff Cyfrifol.

Os yw'r achos yn mynd i wrandawiad, bydd panel y tribiwnlys yn ystyried y datganiadau achos ac unrhyw ddogfennau eraill a ddarperir gennych chi a'r Corff Cyfrifol, ynghyd â'r dystiolaeth y bydd yn ei glywed, er mwyn eu helpu i wneud penderfyniad am eich hawliad.

Alla' i anfon mwy o ddogfennau ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos?

Gelwir tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos yn dystiolaeth ysgrifenedig hwyr. Mae yna gyfyngiadau ar dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig yn hwyr.

Mae gwybodaeth ar gael am y rheolau tystiolaeth hwyr yn adran Tystiolaeth Hwyr y cwestiynau cyffredin hyn.

Pa wybodaeth arall bwysig mae angen i chi ddweud wrthym amdani?

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am y dyddiad cau ar gyfer anfon eich datganiad achos byddwn hefyd yn gofyn i chi roi gwybodaeth i ni y bydd arnom ei hangen i drefnu'r gwrandawiad.

Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am ddyddiadau pan fyddwch chi a'ch cynrychiolwyr a thystion ar gael i fynychu gwrandawiad. Byddwn yn rhoi terfyn amser ar gyfer anfon y wybodaeth hon atom. Os na fyddwn yn clywed gennych, byddwn yn mynd ymlaen ac yn gosod dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddweud wrthym pwy fydd yn dod i'r gwrandawiad gyda chi. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r wybodaeth hon i ni cyn y gwrandawiad. Efallai na fydd unrhyw un sydd heb ei restru cyn y gwrandawiad yn cael caniatâd i ddod i mewn i'r gwrandawiad. Bydd angen i chi ddweud wrthym hefyd os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i'r bobl yr ydych yn dymuno iddyn nhw fynychu'r gwrandawiad. Os na fyddwch yn gwneud hynny efallai na fyddan nhw’n cael caniatâd i fynd i mewn i'r gwrandawiad.

Ymateb i hawliad ynglŷn â gwahaniaethau ar sail anabledd: canllaw i Gyrff Cyfrifol

Beth yw anabledd?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi mai nam corfforol neu feddyliol yw anabledd sy’n cael effaith andwyol a sylweddol (mwy na mân effaith neu effaith fach) hirdymor (mwy na blwyddyn neu am weddill oes) ar allu person i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol.

Beth yw’r agweddau ar addysg sy’n dod o dan y Ddeddf Gydraddoldeb?

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu, aflonyddu ar neu erlid rhywun ar sail anabledd mewn perthynas â'r meysydd canlynol o fywyd yr ysgol:

Derbyniadau

Addysg a mynediad i unrhyw fudd-dal, gwasanaeth a chyfleuster

Gwaharddiadau

Mae manylion pellach am yr agweddau hyn ar addysg i’w gweld yn ein llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Beth yw gwahaniaethu ar sail anabledd?

Mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn digwydd pan fydd person yn cael ei drin yn waeth (llai ffafriol neu anffafriol) na rhywun arall oherwydd anabledd. Gall gwahaniaethu ar sail anabledd hefyd ddigwydd pan fydd rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau wedi eu rhoi ar waith sy'n rhoi grŵp penodol o ddisgyblion anabl o dan anfantais o'u cymharu â disgyblion nad ydynt yn anabl a bod person anabl yn cael ei roi o dan anfantais o ganlyniad.

Beth yw’r mathau o wahaniaethu?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu bod pobl sydd ag anabledd neu sydd wedi bod ag anabledd yn cael eu diogelu rhag gwahanol fathau o wahaniaethu.

Y rhain yw:

  • gwahaniaethu uniongyrchol;
  • gwahaniaethu anuniongyrchol;
  • gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd;
  • methiant i wneud addasiad o fewn rheswm ar gyfer plentyn anabl;
  • aflonyddu; neu
  • erledigaeth.

Mae manylion pellach am y mathau o wahaniaethu i’w gweld yn ein llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Pryd mae modd cyfiawnhau gwahaniaethu?

Er y gall eich plentyn fod wedi ei drin yn anffafriol neu ei fod wedi cael ei roi o dan anfantais, efallai na fydd y gwahaniaethu yn anghyfreithlon os gall yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol ddangos bod cyfiawnhad am hynny.

Mewn achosion o wahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu yn deillio o anabledd, ystyr cyfiawnhau yw gallu dangos bod rheswm cyfreithlon a gwirioneddol dros y driniaeth a bod hyn yn ymateb teg, cytbwys a rhesymol.

Beth am y ddyletswydd i wneud addasiadau o fewn rheswm?

Mae'n rhaid i ysgolion ac Awdurdodau Lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw disgyblion anabl, gan gynnwys plant nad ydynt eto yn yr ysgol ac mewn rhai achosion cyn-ddisgyblion, yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â disgybl heb fod yn anabl.

Gallai cam rhesymol er enghraifft olygu diwygio polisi neu newid y ffordd y gwneir pethau.

Nid oes rhaid i ysgolion newid adeiladau. Mae hyn oherwydd bod gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wella mynediad i adeiladau dros gyfnod o amser.

A yw’n bosibl gwahaniaethu yn erbyn plentyn heb anabledd?

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu bod pobl heb anabledd yn cael eu diogelu rhag rhai mathau o ymddygiad anghyfreithlon, sef:

  • gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar gysylltiad
  • gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar ganfyddiad
  • aflonyddu sy'n gysylltiedig ag anabledd
  • erledigaeth sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Mae manylion pellach am y mathau o wahaniaethu i’w gweld yn ein llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Pa hawliadau y gall TAAAC ymdrin â nhw?

Mae TAAAC yn ymdrin â'r holl hawliadau sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd, aflonyddu ac erledigaeth yn erbyn ysgolion yng Nghymru, ac eithrio hawliadau am:

  • benderfyniadau derbyn disgyblion ysgolion a gynhelir (mae'r rhain yn cael eu clywed gan banel apêl ynghylch derbyn disgyblion ar hyn o bryd)
  • gwaharddiadau parhaol o ysgolion a gynhelir (mae'r rhain yn cael eu clywed gan baneli apeliadau gwahardd ar hyn o bryd).

Sut gall rhieni gael gwybodaeth am eu hawliad?

Os bydd rhywun yn credu bod eu plentyn wedi dioddef gwahaniaethu, gallant geisio cael gwybodaeth gan yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol i’w helpu i benderfynu a oes ganddynt hawliad dilys. Os gwneir cais am wybodaeth, nid yw’n rhwym arnoch chi i ateb y cwestiynau dan sylw. Fodd bynnag, os na fyddwch yn eu hateb o fewn 8 wythnos i anfon y ffurflen neu os bernir bod eich atebion yn annelwig neu’n amwys, gall panel y tribiwnlys ystyried hyn wrth wneud ei benderfyniad.

Mae Swyddfa Gydraddoldebau y Llywodraeth (GEO) wedi credu ffurflen benodol i ddarpar hawlydd ei defnyddio (os nid yw hyn yn ofynnol) i holi unrhyw gwestiynau.

Pa gamau eraill y gellid eu cymryd i ddatrys yr anghydfod?

  • Gweithdrefn gwynion yr ysgol
  • Gwasanaeth Datrys Anghydfod yr Awdurdod Lleol

Ni fydd unrhyw un o’r gweithdrefnau hyn yn effeithio ar hawliad i TAAAC; maent yn gwbl ar wahân i’r broses o wneud hawliad. Gal rhiant wneud hawliad a pharhau â’r dulliau eraill hyn o ddatrys anghydfod os ydynt yn dymuno.

Hyd yn oed ar ôl cyflwyno hawliad, weithiau mae modd datrys anghyfod neu gytuno ar rai agweddau ar yr hawliad drwy eu trafod gyda’r rhiant. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi gwybod i’r Tribiwnlys am unrhyw gytundeb o’r fath.

A all plant wneud eu hawliadau eu hunain?

Gall plant a phobl ifanc wneud eu hawliad eu hunain yn erbyn ysgolion yng Nghymru.

Ni fydd yr hawl newydd i blant wneud eu hawliad eu hunain ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd yn effeithio ar hawliau presennol rhieni. Gall rhiant wneud hawliad o hyd, p’un a yw eu plentyn yn gwneud un ai peidio.

A oes terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad?

Gwneir unrhyw hawliad i TAAAC. Mae’n rhaid i riant wneud hawliad o fewn chwe mis o’r honiad o wahaniaethu neu’r honiad diwethaf o weithred o wahaniaethu.

Gellir ymestyn y terfyn amser hwn os defnyddir Gwasanaeth Cymodi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Pwy yw’r Corff Cyfrifol?

Gwneir hawliadau yn erbyn y Corff Cyfrifol. Dyma’r sefydliad sy’n gyfrifol am yr ysgol – fel arfer Llywodraethwyr yr Ysgol a/neu’r Awdurdod Lleol. Nid yw’n bosibl gwneud hawliadau yn erbyn unigolyn fel y pennaeth.

Beth sy'n digwydd ar ôl cofrestru hawliad?

Byddwn yn eich hysbysu bod yr hawliad wedi’i gofrestru ac yn dweud wrthych pan fydd yn rhaid anfon eich datganiad achos a ffurflen bresenoldeb. Bydd 30 diwrnod gwaith i chi anfon eich datganiad achos a ffurflen bresenoldeb.

Byddwn hefyd yn ysgrifennu at y rhieni i roi’r un faint o amser iddynt anfon eu datganiad achos. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, byddwn yn sicrhau eich bod chi a’r rheini yn gweld eich datganiadau achos eich gilydd.

Byddwn hefyd yn trefnu gwrandawiad. Yn y gwrandawiad, bydd panel tribiwnlys yn ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, yn ogystal ag unrhyw beth y byddwch chi, y rhieni a’r tystion yn ei ddweud. Ein nod fydd cyhoeddi ein penderfyniad o fewn tua 10 diwrnod gwaith wedi’r gwrandawiad.

Mae’r broses gyfan, o dderbyn hawliad i wneud penderfyniad, fel arfer yn cymryd pedwar i bum mis. Gallai gymryd mwy o amser os yw’n achos cymhleth iawn.

Sut ydyn ni’n gwybod ai ni yw’r Corff Cyfrifol?

Mae’r Corff Cyfrifol yn dibynnu ar y math o ysgol a’r amgylchiadau ym mhob achos. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y CorffCyfrifol wedi’i nodi fel yr isod, ond gallai fod eithriadau.

  • Ysgol a gynhelir – Llywodraethwyr yr Ysgol fel arfer
  • Uned cyfeirio disgyblion – yr Awdurdod Lleol
  • Meithrinfa a gynhelir – yr Awdurdod Lleol
  • Pob ysgol annibynnol – y perchennog
  • Ysgolion arbennig nas cynhelir – y perchennog.

Os nad ydych yn meddwl mai chi yw’r Corff Cyfrifol, dylech ysgrifennu atom ar unwaith i egluro pam.

A oes terfyn amser ar gyfer ymateb i’r hawliad?

Mae terfyn amser llym ar gyfer derbyn y datganiad achos. Byddwn yn dweud wrthych pryd y bydd yn rhaid i chi anfon y datganiad achos a’r ffurflen bresenoldeb. Bydd 30 diwrnod gwaith i chi anfon yr wybodaeth.

Pa wybodaeth y mae angen ei hanfon yn y datganiad achos?

Mae’n rhaid i’r Corff Cyfrifol anfon y canlynol:

  • copi o’r penderfyniad sy’n destun anghydfod
  • yr holl dystiolaeth i’w defnyddio sydd heb ei hanfon hyd yn hyn
  • datganiad achos

Mae’n rhaid bod y datganiad achos:

  • yn nodi a yw’r Corff Cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu’r hawliad
  • wedi’i lofnodi gan berson ag awdurdod i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran y Corff Cyfrifol

Os yw’r Corff Cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu’r hawliad, mae’n rhaid bod y datganiad achos yn cynnwys y canlynol:

  • y rhesymau dros wrthwynebu’r hawliad neu unrhyw ran ohono
  • crynodeb o’r ffeithiau
  • y rhesymau pam bod y penderfyniad yn destun anghydfod
  • y camau a gymerwyd i ddatrys yr anghydfod, os cymerwyd camau o gwbl
  • barn y plentyn am y materion yn yr hawliad, NEU
  • esboniad pam nad yw’r Corff Cyfrifol wedi canfod beth yw barn y plentyn
  • enw a chyfeiriad cynrychiolydd y Corff Cyfrifol
  • i ba gyfeiriad y dylid anfon dogfennau ar gyfer y Corff Cyfrifol.

Dylai’ch datganiad achos nodi’r ffeithiau perthnasol o’ch safbwynt chi; yr hyn a ddigwyddodd, anabledd y plentyn, a gwybodaeth gefndir (e.e. polisïau’r ysgol, anawsterau blaenorol).

Mae gwybodaeth bellach am yr hyn y gallech ei nodi a manylu arno yn eich datganiad achos i’w gweld yn ein llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Beth ddylem ni ei wneud ynghylch unrhyw atebion a restrir gan y rhieni?

P’un a ydych chi;n gwrthwynebu’r hawliad cyfan ai peidio, gallwch roi eich barn ar unrhyw atebion y mae’r rhieni yn eu cynnig. Rydym wedi cynnwys adran ddewisol yn y ffurflen gais i rieni gael dweud beth ddylai gael ei wneud i unioni pethau. Os ydynt wedi’i llenwi, gallwch ddweud wrthym i ba raddau y byddai’r mesurau sydd wedi’u hawgrymu yn rhesymol. Os oes gennych chi awgrymiadau i’w cynnig, gallai’r rhain ein helpu i benderfynu ar y camau y dylid eu cymryd.

Beth ddylem ni ei wneud os byddwn yn dod i gytundeb am rai o’r materion yn yr hawliad?

Byddwn ni ond yn derbyn hawliad os ydych chi a’r rhieni yn anghytuno, ond mae’n briodol bod trafodaethau yn parhau rhwng y ddwy ochr ar ôl gwneud hawliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddweud wrthym am unrhyw rannau o’r hawliad rydych chi a’r rhieni wedi’u datrys wedi i ni dderbyn yr hawliad.

A ddylem wrthwynebu’r hawliad?

Mae blwch dewisol ar y ffurflen gais i rieni lle gallant ddweud sut hoffent weld pethau’n cael eu hunioni. Gallai’r rhain fod yn bethau rydych chi’n fodlon eu gwneud heb yr angen am dribiwnlys. Os ydych chi’n cytuno y bu peth gwahaniaethu ond eich bod yn bwriadu unioni pethau, efallai y bydd y rhieni’n fodlon tynnu eu hawliad yn ôl.

A fydd angen cyfreithiwr os byddwn yn gwrthwynebu’r hawliad?

Nid yw cynrychiolaeth gyfreithiol yn hanfodol mewn gwrandawiad tribiwnlys. Ond gallwch ddewis cael cyfreithiwr yn bresennol yn ogystal â’ch cynrychiolydd. Os byddwch yn ymgymghori â chyfreithiwr neu gynrychiolydd arall, dylech wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn gwrthwynebu’r hawliad?

Os na fyddwch yn gwrthwynebu’r hawliad, mae’n rhaid i chi ysgrifennu i nodi hyn erbyn diwedd y cyfnod datganiad achos. Rhaid i chi gynnwys gwybodaeth am y camau rydych chi’n bwriadu eu cymryd i ddod â’r gwahaniaethu i ben. Yna byddwn yn ysgrifennu at y rhiant i ofyn a ydynt yn bwriadu tynnu’r hawliad yn ôl. Os nad ydynt, bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal lle na fydd hawl i’r Corff Cyfrifol fod yn bresennol.

Beth os nad yw’r Corff Cyfrifol yn anfon ymateb?

Os na fydd y Corff Cyfrifol yn ymateb erbyn diwedd y cyfnod, bydd eich hawliad yn cael ei drosglwyddo i Gadeirydd y Tribiwnlys a fydd yn penderfynu ar y camau i’w cymryd. Gallai hyn gynnwys gwrthod i’r Corff Cyfrifol gymryd rhan bellach yn y trafodion.

A oes modd datrys y mater heb wrandawiad?

Yn gyffredinol, y peth gorau i chi fyddai datrys anghydfod drwy gytundeb â’r rhieni. Mae’n briodol trafod y mater ar ôl gwneud hawliad i dribiwnlys.

Mae’n bosibl bod problemau cyfathrebu wedi cyfrannu at yr anghydfod. Gall rhieni droi at wasanaeth cyfryngu annibynnol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Os byddwn yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd cymodi, ceir defnyddio’r hyn sy’n cael ei ddweud mewn cyfarfodydd o’r fath mewn gwrandawiad Tribiwnlys dim ond os byddwch yn cytuno â hynny.

A allaf anfon rhagor o wybodaeth ar ôl y datganiad achos?

Tystiolaeth ysgrifenedig hwyr yw’r enw ar dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos. Mae cyfyngiadau ynghylch derbyn tystiolaeth ysgrfienedig hwyr. Mae gwybodaeth am y rheolau tystiolaeth hwyr ar gael yn Adran Tystiolaeth Hwyr y Cwestiynau Cyffredin hyn.

A all y Corff Cyfrifol ofyn i fwrw hawliad allan?

Ydy, gall y Corff Cyfrifol wneud cais am resymau cyfyngedig i fwrw hawliad allan. Os bydd y Tribiwnlys yn bwrw’r hawliad allan, bydd yn dod i ben. Dyma’r unig resymau dros fwrw hawliad allan:

  • Nid yw wedi’i gwneud yn unol â rheoliadau’r Tribiwnlys;
  • Nid yw, neu nid yw bellach, o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;
  • Nid yw’n nodi unrhyw reswm teilwng; a/neu
  • Mae’n camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

Mae’n rhaid gwneud cais ysgrifenedig i fwrw hawliad allan, gan nodi’r rhesymau yn llawn.

Tystiolaeth hwyr

Alla’i anfon mwy o ddogfennau ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos?

Gelwir tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos yn dystiolaeth ysgrifenedig hwyr. Mae yna gyfyngiadau ar dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig yn hwyr.

Gallwch ofyn i banel y Tribiwnlys ar ddiwrnod y gwrandawiad a ellir derbyn y dystiolaeth hwyr. Bydd panel y Tribiwnlys yn ystyried eich cais ar yr amod bod:

  • y ddwy ochr yn cytuno i dderbyn y dystiolaeth ysgrifenedig yn hwyr; neu
  • y dystiolaeth ysgrifenedig hwyr yr ydych yn gallu dangos yn bodloni'r amodau canlynol:
  • Nid oedd y dystiolaeth hwyr ar gael cyn diwedd y dyddiad cau ar gyfer y datganiad achos; ac ni ellid disgwyl yn rhesymol iddi fod wedi bod ar gael.
  • Anfonwyd copi o'r dystiolaeth hwyr at TAAAC, a'r parti arall fel ei bod yn cael ei derbyn o leiaf pump diwrnod gwaith clir cyn y gwrandawiad.

Gall panel y Tribiwnlys dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig hwyr dim ond ar ôl ystyried unrhyw sylwadau gan y parti arall a dim ond os yw'r dystiolaeth yn annhebygol o rwystro'r gwaith o gynnal y gwrandawiad yn effeithlon.

Os nad yw'r amodau yn cael eu bodloni, gall panel y Tribiwnlys ddal i roi caniatâd i barti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig hwyr yn y gwrandawiad os gellir dangos oni bai bod y dystiolaeth yn cael ei derbyn fod risg ddifrifol o niwed i'r parti sy'n ceisio dibynnu arni.

Gall panel y Tribiwnlys wrthod derbyn tystiolaeth ysgrifenedig hwyr os yw o'r farn y byddai gwneud hynny yn groes i fuddiannau cyfiawnder.

Os nad yw'r dystiolaeth ysgrifenedig hwyr eisoes wedi cael ei chopïo i TAAAC a'r parti arall fel ei bod yn cael ei derbyn o leiaf 5 diwrnod gwaith clir cyn y gwrandawiad, dylech ddod â pump copi o'r dystiolaeth ysgrifenedig hwyr gyda chi i'r gwrandawiad.

Gwrandawiad

Pryd y byddwch yn dweud wrth y ddwy ochr am y dyddiad ar gyfer y gwrandawiad?

Wedi i’r ddwy ochr ddweud pryd byddant ar gael, byddwn yn ysgrifennu atynt i roi dyddiad y gwrandawiad.

Ble fydd fy ngwrandawiad yn cael ei gynnal?

Rydym yn cynnal gwrandawiadau ledled Cymru a byddwn yn ceisio cynnal eich gwrandawiad chi o bellter teithio awr o gartref y plentyn. Rydym fel arfer yn cynnal gwrandawiad mewn adeiladau cyhoeddus, fel gwestai. Bydd y gwrandawiad ei hun mewn ystafell breifat.

Rydym yn defnyddio lleoliadau sy'n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr anabl. Gadewch i ni wybod os oes gennych unrhyw anghenion penodol.

Pryd fydd fy ngwrandawiad yn dechrau a pha mor hir y bydd yn para?

Bydd eich gwrandawiad ar amser penodol sydd fel arfer yn 10.00 yn y bore. Dylech anelu at gyrraedd o leiaf 30 munud cyn i'r gwrandawiad ddechrau. Gall gwrandawiad gymryd trwy'r dydd ond nid ydyn nhw fel arfer yn mynd ymlaen ar ôl 5.00pm.

Pwy fydd yn gwrando yr apêl neu hawliad?

Gwrandawir ar yr apêl neu hawliad gan grŵp o dri aelod Tribiwnlys. Rydym yn galw'r bobl hyn yn banel y Tribiwnlys. Mae gan un person ar y gymhwyster cyfreithiol a bydd yn cadeirio'r gwrandawiad. Mae gan y ddau aelod arall wybodaeth arbenigol a phrofiad o blant ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd.

A oes rhaid i mi ddod i'r gwrandawiad?

Gallai fod yn bosibl penderfynu eich apêl ar sail y papurau. Mae hynny’n golygu y bydd y panel yn gwneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth y bydd y ddwy ochr yn ei chyflwyno ac na fydd gwrandawiad llafar yn cael ei gynnal. Byddwn yn eich holi am hyn ar eich ffurflen apêl neu ffurflen cais am hawliad.

Nid oes yn rhaid i chi ddod iddo hyd yn oed os ydych eisiau iddi gael ei gynnal, ond gallai fod yn ddefnyddiol os ydych yn dod . Bydd panel y tribiwnlys yn dymuno clywed beth sydd gennych chi i'w ddweud am eich apêl neu hawliad ac efallai bydd ganddyn nhw rai cwestiynau i'w gofyn i chi hefyd. Efallai yr hoffech chi hefyd ofyn cwestiynau.

Pwy arall y gallaf i ddod â nhw i'r gwrandawiad?

Gallwch ddod â’r bobl ganlynol i’r gwrandawiad:

Cynrychiolydd 
Gallwch gael rhywun yn y gwrandawiad i'ch cynrychioli os ydych yn dod eich hun ai peidio. Nid oes rhaid bod gan yr unigolyn hwn gymhwyster cyfreithiol.

Rhieni/gofalwyr y plentyn 
Gallai rhiant neu unigolyn â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ddod i'r gwrandawiad, hyd yn oed os mai nid nhw sy'n gwneud yr apêl neu hawliad.

Eich plentyn 
Gallai eich plentyn ddod i'r gwrandawiad a siarad â'r panel a rhoi tystiolaeth os yw'n dymuno gwneud hynny. Mae'n debygol bydd y panel yn awyddus i siarad â'ch plentyn chi am ran o'r gwrandawiad yn unig. Mae'n rhaid i chi drefnu i rywun ddod draw a allai ofalu am eich plentyn pan nad yw yn y gwrandawiad. Ni fydd staff y Tribiwnlys yn gallu edrych ar ôl eich plentyn ac efallai na fydd lle addas yn yr adeilad iddo dderbyn gofal gan y person sy'n gofalu amdano.

Rhywun i roi cefnogaeth 
Gallwch ddod ag un person gyda chi i'ch cefnogi. Bydd hwnnw’n gallu dod i mewn i'r gwrandawiad, ond ni fydd yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad na chymryd nodiadau yn ystod y gwrandawiad.

Tystion 
Gallwch ddod â hyd at ddau dyst i'r gwrandawiad.

Gallai dewis pwy sydd i ddod fel tystion yn y gwrandawiad fod yn anodd. Dylai'r tystion a ddewiswch fod yn gallu trafod prif faterion eich apêl neu hawliad fel maen nhw’n ymwneud yn benodol â'ch plentyn. Mae'n rhaid i dystion ddisgwyl ateb cwestiynau am eu tystiolaeth. Bydd arnyn nhw angen gwybodaeth dda am y ffeithiau a'r rhesymeg y tu ôl i'r wybodaeth maen nhw’n ei rhoi.

Eiriolwr 
Gallwch ddod â rhywun i gyfleu barn a dymuniadau'r plentyn gyda chi.

Cyfaill achos 
Mae hyn ond yn gymwys lle gwnaed yr apêl neu hawliad gan y plentyn neu gyfaill achos y plentyn, mae gan gyfaill achos y plentyn yr hawl i fynychu'r gwrandawiad.

Pam ddylwn i lenwi ffurflen presenoldeb?

Bydd angen i chi roi gwybod pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad. Byddwn yn anfon ffurflen bresenoldeb i chi ei llenwi pan fyddwn yn cofrestru’ch apêl neu’ch hawliad.

Os na fyddwch yn dweud wrthym pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad efallai na fyddan nhw’n gallu mynychu'r gwrandawiad.

A ydw i’n cael newid fy nhyst(ion)?

Gallwch newid person sydd wedi’i enwi ar eich ffurflen bresenoldeb. Mae’n rhaid i chi anfon hysbysiad ysgrifenedig at TAAAC a’r ochr arall fel eu bod yn ei dderbyn o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.

Mae’n rhaid i’r Llywydd neu banel y tribiwnlys benderfynu ar unrhyw gais i newid tyst a ddaw i law llai na phum diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad. Mae’r un rheol yn berthnasol i’r Awdurdod Lleol neu’r Corff Cyfrifol.

Beth os na fydd fy nhyst yn dod i’r gwrandawiad?

Os ydych chi wedi gofyn i rywun ddod i’r gwrandawiad ond nad yn fodlon dod, gallwch ysgrifennu atom yn esbonio pam rydych chi’n meddwl ei bod yn bwysig iddynt fod yno. Bydd angen i ni gael eich cais o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad. Os ydyn ni’n cytuno, gallwn roi gwŷs tyst i chi ei roi i’r person. Yna bydd yn rhaid i’r person hwn ddod i’r gwrandawiad oni bai bod rhesymau da iawn iddynt beidio.

Pwy allai'r Awdurdod Lleol neu Corff Cyfrifol ddod gyda nhw i'r gwrandawiad?

Gall yr Awdurdod Lleol neu Corff Cyfrifol fynychu'r gwrandawiad a dod â chynrychiolydd, sy'n gymwys yn gyfreithiol neu ddim, i'r gwrandawiad. Gallan nhw hefyd alw hyd at ddau dyst i'r gwrandawiad, dod â sylwedydd ac eiriolwr. Fel chi, bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd lenwi ffurflen presenoldeb. Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn y gwrandawiad i gadarnhau pwy sy'n dod i'r gwrandawiad.

Beth sy'n digwydd mewn gwrandawiad?

Bydd rhywun o'r Tribiwnlys yn eich cyfarfod ac yn dangos i chi ble i fynd. Cynhelir y gwrandawiad mewn ystafell breifat gyda phawb sy'n cymryd rhan yn eistedd o amgylch bwrdd. Bydd y cadeirydd yn dechrau drwy ofyn i bawb gyflwyno eu hunain. Bydd y cadeirydd hefyd yn esbonio beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad.

Bydd panel y Tribiwnlys yn gofyn i chi beth yn eich barn chi yw'r ffeithiau perthnasol, beth yn eich barn chi ddylai gael ei wneud ar gyfer eich plentyn a'r hyn rydych am i'r Tribiwnlys ei wneud am y peth. Bydd panel y Tribiwnlys hefyd yn dymuno gofyn i'r awdurdod lleol beth mae'n ei feddwl am yr apêl neu hawliad. Byddwch chi a'r Awdurdod Lleol neu Corff Cyfrifol hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ac i sôn am unrhyw beth sy'n bwysig.

Bydd panel y tribiwnlys yn dymuno sicrhau hefyd bod unrhyw dystion yn y gwrandawiad i siarad am eu tystiolaeth.

Bydd egwyliau cysur rheolaidd ar gael drwy gydol y gwrandawiad ac egwyl am ginio. Os bydd angen i chi fynd allan o'r ystafell am unrhyw reswm, dylech adael i'r cadeirydd wybod.

Pa dreuliau y gellir eu hawlio?

Gall TAAAC dalu treuliau’r rhiant a’i dystion yn unig i ddod i’r gwrandawiad. Os ydych yn dod â ffrind neu berthynas i ofalu am eich plentyn, byddwch yn gallu hawlio eu costau teithio nhw hefyd.

Dylech ddefnyddio cludiant cyhoeddus lle bo modd (teithio ar y bws, tram, trên dosbarth safonol). Os ydych yn teithio mewn car, gallwch hawlio swm penodol am filltiroedd. Byddwn yn talu costau tacsi dim ond os nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, neu os oes gennych anghenion penodol. (Rhaid i chi ddweud wrthym am y rhain cyn hawlio eich treuliau). Bydd angen i ni awdurdodi unrhyw gostau tacsi ymlaen llaw. Ni allwn dalu am barcio ceir a thollau. Gall eich tystion hawlio swm penodol am golli enillion hefyd.

Gallwch ofyn i ni am ffurflen ar gyfer treuliau drwy gysylltu â ni.

Penderfyniad

Sut y byddwch yn gwneud eich penderfyniad?

Mae’r tribiwnlys yn gwneud ei benderfyniad gan ystyried yr holl dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys y dogfennau y byddwch chi a'r Awdurdod Lleol neu Corff Cyfrifol yn eu hanfon cyn y gwrandawiad a hefyd yr hyn a ddywedir yn y gwrandawiad.

Pryd fydda' i yn gwybod penderfyniad y Tribiwnlys?

Dylech dderbyn y penderfyniad ysgrifenedig a'r rhesymau drwy'r post tua 10 diwrnod gwaith ar ôl y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch chi, eich cynrychiolydd os oes gennych un, ac at yr Awdurdod Lleol.

Pan fydd apêl yn cael ei gwneud gan blentyn, byddwn yn anfon y penderfyniad at y plentyn neu ei gyfaill achos os oes ganddo un hefyd.

Faint o amser sydd gan yr Awdurdod Lleol i wneud y gorchymyn?

Faint o amser sydd gan yr Awdurdod Lleol i wneud y gorchymyn?

(Gwneud Gorchymyn Apêl: Canllaw i rieni ar y camau nesaf – Llyfryn Canllaw TAAAC 15)


A wnewch chi gadarnhau y gwahaniaethwyd yn erbyn fy mhlentyn?

Os ydym o'r farn y gwahaniaethwyd yn anghyfreithlon yn erbyn eich plentyn oherwydd ei anabledd ef neu hi, byddwn yn dweud hynny yn ein penderfyniad.

Os byddwn yn anghytuno â'ch hawliad, byddwn yn ei wrthod. Yna byddwn yn cau'r achos ac ni fyddwn yn gweithredu ymhellach.

Beth y gall y Tribiwnlys ei ddweud y dylai'r Corff Cyfrifol ei wneud?

Gallwn orchymyn y Corff Cyfrifol i wneud unrhyw beth rhesymol i wneud iawn am y gwahaniaethu. Nid yw'r gyfraith yn caniatáu i ni orchymyn iawndal ariannol.

Faint o amser sydd gan y Corff Cyfrifol i gyflawni'r gorchymyn?

Byddwn yn gofyn i'r Corff Cyfrifol gyflawni'r gorchymyn o fewn amser penodol.

Mae'n rhaid iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith.

(Gwneud Gorchymyn Hawliad: Canllaw i rieni ar y camau nesaf – Llyfryn Canllaw TAAAC 16)

Efallai y byddwch hefyd am gael cyngor cyfreithiol ynghylch p'un a allwch chi fynd â'r Corff Cyfrifol i'r llys.


Beth alla' i ei wneud os nad wyf yn hapus am eich penderfyniad?

Mae ein penderfyniad yn derfynol. Os ydych yn credu bod problem dechnegol gyda'r penderfyniad a sut y cafodd ei wneud, gallwch ofyn i ni ei adolygu. Ni fyddwn yn adolygu ein penderfyniad oherwydd nad ydych yn hapus ag ef yn unig. Rhaid i ni dderbyn eich cais ysgrifenedig i adolygu o fewn 28 diwrnod calendr o'r dyddiad y bu i ni gyhoeddi'r penderfyniad.

Os ydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir yn ôl y gyfraith, gallwch apelio i Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys. Mae'n rhaid i chi wneud cais i TAAAC am ganiatâd i apelio yn gyntaf. Rhaid i chi wneud eich cais fel y byddwn yn ei dderbyn ddim mwy na 28 diwrnod calendr o ddyddiad y llythyr a anfonwyd gyda'r penderfyniad.

Mae ein llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon

(Canllaw ar wneud cais am ganiatad i apelio i’r Uwch Dribiwnlys TAAAC 20)

Danfon a derbyn e-byst diogel gan ddefnyddio Egress Switch

Pam bod y tribiwnlys yn defnyddio Egress Switch?

Mae Egress Switch yn caniatáu i staff y tribiwnlys anfon gwybodaeth gyfrinachol i gyfrifon e-bost allanol (gan gynnwys Hotmail, Yahoo a Gmail). Mae natur gwaith y tribiwnlys yn golygu ein bod yn aml yn ymdrin â gwybodaeth sensitif, ac nid ydym am i’r wybodaeth hon fynd i’r dwylo anghywir. Mae mesurau fel gwasanaethau post gwarchodedig wedi bod ar waith ers tro. Fodd bynnag, rydym yn anfon gwybodaeth drwy e-bost fwyfwy gan fod hyn yn ffordd gyflymach a chyfleus i’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym felly wedi cyflwyno darn o feddalwedd hawdd ei defnyddio a fydd yn helpu i sicrhau bod unrhyw wybodaeth a anfonir drwy e-bost yn cael ei gwarchod.

Oes modd defnyddio Egress Switch am ddim?

Oes. Gall pawb sy’n derbyn e-byst drwy Egress Switch gan y tribiwnlys eu gweld ac ymateb iddynt am ddim.

Sut mae modd gweld e-byst sydd wedi’u hamgryptio drwy Egress?

Bydd angen creu cyfrif Egress y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r system cyn gallu mewngofnodi i weld yr e-bost. Mae’r broses hon yn fyr ac yn syml. Er mwyn creu cyfrif, mae angen mewnbynnu cyfeiriad e-bost a gosod cyfrinair. Wedyn, bydd cod gweithredu’n cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost hwn er mwyn gallu mewngofnodi a darllen e-byst. Mae canllaw cam wrth gam i’r broses hon ar gael ar wefan Egress Switch.

A fydd mwy nag un person yn gallu gweld e-bost wedi iddo gael ei ddadgryptio?

Yn gyffredinol, dim ond y derbynnydd gwreiddiol sy’n gallu darllen e-byst. Fodd bynnag, mae modd addasu’r ‘gosodiadau mynediad’ i ganiatáu i eraill eu darllen. Mae hyn yn ddefnyddiol yn achos cyfeiriadau grŵp, neu os oes angen i gyfreithiwr rannu e-byst gyda chydweithwyr neu gynorthwywyr.

A oes modd defnyddio cyfrifon e-bost diogel y System Cyfiawnder Troseddol (CJSM) o hyd?

Oes. Nid yw’n hanfodol i ddefnyddio Egress Switch. Fodd bynnag, byddwn yn eich annog i ymateb drwy Egress oherwydd y problemau amrywiol sydd wedi codi gyda chyfrifon CJSM (e.e. blychau post bach, costau trwyddedu).

Oes modd defnyddio Egress Switch ar ffôn symudol neu dabled?

Oes. Mae gan Egress Switch wefan sy’n addas ar gyfer dyfeisiau symudol. Hefyd mae ap Egress Switch ar gael ar gyfer dyfeisiau BlackBerry ac iPhones/iPads, a bydd hyn ar gael yn fuan ar gyfer dyfeisiau Android.

Oes modd defnyddio Egress Switch ar Apple Mac?

Oes. Mae modd gosod y cleient ar Mac OSX 10.6 ac yn uwch.

A yw Egress yn storio fy nata o gwbl?

Nid yw Egress yn trin nac yn storio unrhyw wybodaeth y mae defnyddwyr yn ei rhannu. Caiff yr wybodaeth ei hamgryptio drwy amgryptio AES 256-bit a’i drosi i becyn wedi’i warchod er mwyn ei drosglwyddo i’r derbynnydd drwy CD/DVD, cof bach USB, ffeil leol, FTP, HTTP neu atodiad e-bost. Yr unig wybodaeth y mae Egress yn ei chadw yw’r fath sy’n ymwneud â rheoli defnyddwyr, rheoli pecynnau ac archwilio. Mae Egress yn cyfrif yr wybodaeth hon yn sensitif hefyd, felly mae wedi cynllunio’r peiriant polisi i ddefnyddio trafodion gwarchodedig, dilysu manwl a chronfa ddata ar weinydd sydd wedi’i warchod a’i amgryptio.

A all Egress weld fy ngwybodaeth?

Nid yw Egress yn gallu gweld eich gwybodaeth. Mae meddalwedd y cleient Egress yn amgryptio ac yn dadgryptio’ch gwybodaeth ar eich peiriant chi, felly nid yw Egress yn gallu ei gweld.

Pwy all derbynwyr allanol gysylltu â nhw os ydyn nhw’n cael problemau technegol ag Egress Switch?

Dylent gysylltu’n uniongyrchol â thîm cymorth Egress drwy’r ffyrdd canlynol:

E-bost support@egress.com 
Ffôn 0871 376 0014

Mae cyngor a chyfarwyddyd pellach ar ddefnyddio Egress Switch ar gael ar wefan Egress.

Os oes gennych ymholiadau pellach am Egress Switch a’r defnydd ohono yn y tribiwnlys, e-bostiwch flwch post y tribiwnlys.