Amdanom nI

Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) yn dribiwnlys statudol.

Mae TAAAC yn gyfrifol am glywed apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan Awdurdodau Lleol ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig plentyn, a phenderfynu ar yr apeliadau hynny. TAAAC sydd hefyd yn gyfrifol am ymdrin ag hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd yn ysgolion Cymru. 

Gall rhiant neu’r plentyn neu’r person ifanc ei hun wneud apeliadau a hawliadau. Gall plentyn neu berson ifanc sydd am wneud ei apêl neu ei hawliad ei hun wneud hynny yn gwbl annibynnol neu gall gael cymorth i wneud hynny.

Ffeithiau allweddol

  • Tribiwnlys annibynnol a sefydlwyd yn 2003, trwy Adran 333 (1ZA) o Ddeddf Addysg 1996 yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
  • Mae’r Tribiwnlys yn gwasanaethu Cymru gyfan.
  • Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Tribiwnlys ond mae’r Tribiwnlys, ei aelodau a’i benderfyniadau, yn annibynnol ar y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol.
  • Mae dwy ran i’r Tribiwnlys; yr ysgrifenyddiaeth a’r aelodau. Mae’r ddwy ran yn gweithio gyda’i gilydd, yn ystod y broses apelio a’r broses hawlio, yn gwneud gwahanol waith. Clywed apeliadau a phenderfynu arnynt yw rôl aelodau’r Tribiwnlys. Cynnal dyletswyddau gweinyddol yn ymwneud â phrosesu ceisiadau ac apeliadau yw rôl yr ysgrifenyddiaeth.