Ein targedau

Ein nod yw darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr y Tribiwnlys.

Bydd ein targedau yn ein helpu i gyflawni ein nod a monitro ein perfformiad.

Rydym yn mesur ein perfformiad yn erbyn targedau yn barhaus a chaiff ein perfformiad ei gofnodi yn Adroddiad Blynyddol y Tribiwnlys.

Caiff defnyddwyr y Tribiwnlys eu gwahodd hefyd i lenwi arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y broses er mwyn rhoi adborth ar ein gwasanaeth.

Ein ffigurau perfformiad am y cyfnod o fis Medi 2013 – Awst 2014 yw:

Cofrestru

95% o'r holl apeliadau a hawliadau nad oes angen gwybodaeth na gweithredu pellach i'w cofrestru cyn pen 10 diwrnod gwaith o'u derbyn.

  • Targed wedi'i gyflawni mewn 98% o achosion.

Mewn 95% o'r holl achosion lle nad oeddem yn gallu cofrestru eich apêl neu hawliad byddwn yn ysgrifennu atoch cyn pen 10 diwrnod gwaith o'i dderbyn i'ch hysbysu am yr hyn y byddwn yn ei wneud.

  • Targed wedi'i gyflawni mewn 100% o achosion.

Datganiad achos

95% o holl ddatganiadau achos i'w cyfnewid cyn pen 10 diwrnod gwaith o'u derbyn.

  • Targed wedi'i gyflawni mewn 96% o achosion.

Penderfyniad

Byddwn yn cyhoeddi 90% o benderfyniadau cyn pen 10 diwrnod gwaith o'r gwrandawiad.

  • Targed wedi'i gyflawni mewn 72% o achosion.

Byddwn yn ceisio rhyddhau 90% o achosion cyn pen 20 wythnos i gofrestru.

  • Targed wedi'i gyflawni mewn 96% o achosion.