Ysgrifenyddiaeth ac aelodau

Mae dwy ran i’r Tribiwnlys; yr ysgrifenyddiaeth a’r aelodau. Mae’r ddwy ran yn gweithio gyda’i gilydd yn ystod y broses apelio a hawlio yn gwneud gwahanol waith.

Ysgrifenyddiaeth

Yr ysgrifenyddiaeth sydd yn gyfrifol am weinyddiaeth y Tribiwnlys. Yr ysgrifennydd yw pennaeth y weinyddiaeth. Yr ysgrifenyddiaeth fydd yn delio gyda chofrestru eich apêl neu'ch hawliad, yn ysgrifennu atoch am ragor o wybodaeth, yn gallu dweud wrthych pryd a lle y mae eich apêl neu’ch hawliad yn mynd i gael ei glywed ac yn gweithredu fel clerc yn eich gwrandawiad.

Ein nod yw darparu gwasanaeth defnyddiol a chyfeillgar o safon.

Cysylltwch â ni os na allwch ddarganfod beth yr ydych yn chwilio amdano ar y wefan hon neu os oes unrhyw beth yn aneglur.

Aelodau

Llywydd y Tribiwnlys sy’n ben ar Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW). Mae'r Llywydd yn gyfrifol am yr aelodau ac am wneud rhai penderfyniadau neilltuol am apeliadau a hawliadau. Penodir Llywydd y Tribiwnlys gan yr Arglwydd Ganghellor a rhaid iddo/i fod yn fargyfreithiwr neu gyfreithiwr gyda saith mlynedd o brofiad o leiaf.

Caiff gwrandawiadau'r Tribiwnlys eu rheoli gan gadeirydd sydd hefyd â chymwysterau cyfreithiol. Byddant yn ysgrifennu ac yn llofnodi penderfyniadau, yn rhoi gwybod ichi am ohiriadau ac yn gosod cyfarwyddiadau pan fo angen.

Mae gan aelodau addysgol o’r panel rôl bwysig hefyd mewn gwrandawiadau. Mae'r aelodau hyn wedi'u dethol am eu gwybodaeth a'u profiad o blant ag anghenion addysgol arbennig. Bydd yr aelodau'n gofyn cwestiynau yn ystod eich gwrandawiad a, gyda'r Cadeirydd, byddant yn gwneud penderfyniad am eich apêl neu eich hawliad.

Mae nifer o'r aelodau yn siaradwyr Cymraeg rhugl a gallant glywed eich apêl yn Gymraeg neu yn Saesneg.