Apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys

Gellir gwneud cais am adolygiad neu apêl yn erbyn penderfyniad gan dribiwnlys ar sail gyfyngedig.

Adolygiadau

Mae ein penderfyniadau ar apelau AAA a hawliadau gwahaniaethu anabledd yn derfynol. Os ydych yn credu bod problem dechnegol gyda'r penderfyniad a sut y cafodd ei wneud, gallwch ofyn i ni ei adolygu. Ni fyddwn yn adolygu ein penderfyniad oherwydd nad ydych yn hapus ag ef yn unig. Rhaid i ni dderbyn eich cais ysgrifenedig i adolygu o fewn 28 diwrnod calendr o'r dyddiad y bu i ni gyhoeddi'r penderfyniad. 

Apeliadau i’r Uwch Dribiwnlys

Os ydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir yn ôl y gyfraith, gallwch apelio i Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys, ond mae'n rhaid i chi wneud cais i ni am ganiatâd i apelio yn gyntaf. Rhaid i chi wneud eich cais fel y byddwn yn ei dderbyn ddim mwy na 28 diwrnod calendr o ddyddiad y llythyr a anfonwyd gyda'r penderfyniad.  Mae unrhyw un sy'n ystyried gwneud apêl yn gyfrifol am gael ei gyngor cyfreithiol ei hun. 

Gallwch lawrlwytho llyfrynnau canllaw a ffurflenni cais isod, neu gallwch gysylltu â ni os ydych chi am i ni anfon copi atoch.