Cyfarfodydd Grwpiau Defnyddwyr

Mae ein cyfarfodydd Grwpiau Defnyddwyr yn gyfle defnyddiol i’r Tribiwnlys gyfarfod ei gwsmeriaid, fel rheol cynrychiolwyr awdurdodau lleol, rhieni, cynrychiolwyr rhieni o’r sectorau annibynnol, gwirfoddola a chyfreithiol, yn ogystal â chyrff eraill gyda diddordeb cysylltiedig fel Comisiynydd Plant Cymru.

Cynhelir y cyfarfodydd ar ffurf fforwm drafod anffurfiol agored.

Yn ogystal â thrafod polisi a rheoliadau gweithdrefnol y Tribiwnlys mae’r cyfarfodydd yn trafod materion ehangach hefyd. Yn aml bydd cynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad yn mynychu’r cyfarfodydd ac yn rhoi’r newyddion diweddaraf am faterion polisi perthnasol.

Os hoffech gael eich cynnwys yn ein cyfarfodydd grwpiau defnyddwyr cysylltwch â ni os gwelwch yn dda a byddwn yn anfon gwahoddiad i chi i’r cyfarfod nesaf yn eich ardal.

Mae croeso i chi hefyd gysylltu os oes gennych unrhyw awgrymiadau am eitemau ar gyfer yr agenda neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cylch Gorchwyl

Swyddogaethau

  • Galluogi cynrychiolwyr o’r Tribiwnlys a’i ddefnyddwyr i gyfarfod yn rheolaidd i drafod polisi perthnasol a materion eraill o ddiddordeb i’r Tribiwnlys a’i randdeiliaid.
  • Darparu fforwm ar gyfer trafodaeth deg ac agored, ond nid i drafod achosion unigol.

Gweithdrefnau

  • Cynnal cyfarfodydd unwaith neu ddwywaith y flwyddyn mewn lleoliadau rhanbarthol ar draws Cymru.
  • Anfonir gwahoddiadau i fynychu at gyrff rhanddeiliaid ac unigolion.
  • Bydd TAAAC yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y cyfarfodydd a bydd yngyfrifol am gymryd nodiadau, dosbarthu’r agenda a’r papurau cyn y cyfarfodydd a gwneud trefniadau.


Dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd nesaf

Mae manylion y dyddiadau ar gyfer y gyfres nesaf o gyfarfodydd y grwpiau defnyddwyr i’w gweld isod:

 

  • 10.00yb 10 Mai 2021
  • 10.00yb 12 Mai 2021
  • 10.00yb 14 Mai 2021

 


Nodiadau ac agendau o gyfarfodydd blaenorol

Mae ein cyfarfodydd Grwpiau Defnyddwyr yn gyfle defnyddiol i’r Tribiwnlys gyfarfod ei gwsmeriaid.