Newyddion

Cewch yma y newyddion diweddaraf gan y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig i Gymru (TAAAC).

Recriwtio: Panel Addysg

Mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi gofyn i’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol am gael cynnal ymarfer recriwtio i ddewis 6 Aelod o’r Panel Addysg ar gyfer Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Disgwylir y bydd yr ymarfer hwn yn cael ei lansio ar 15 Hydref 2019.

Pwy all wneud cais

  • Mae’r ymarfer hwn yn agored i benaethiaid, athrawon arbenigol mewn ysgolion arbennig neu ddosbarthiadau adferol mewn ysgolion, seicolegwyr/seiciatryddion addysg a therapyddion iaith a lleferydd.
  • Hefyd, bydd angen i ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf yn y maes ac yn meddu ar brofiad ymarferol o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau mewn capasiti proffesiynol. Rhaid iddynt wybod hefyd am y fframweithiau statudol perthnasol a’r arferion yng Nghymru mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yng Nghymru a rhaid bod ganddynt brofiad ymarferol o’r fframweithiau a’r arferion hynny.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gweithlu dwyieithog ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf, ewch i’r ddolen a rhowch eich e-bost i ni: http://eepurl.com/gxFe_L (Saesneg yn unig)

 

Plant a phobl ifanc

O'r 5 Ionawr 2015 mae gan holl blant a phobl ifanc sydd yn byw yng Nghymru'r hawl i:

  • apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir gan eu hawdurdod lleol am eu hanghenion addysgol arbennig
  • dwyn hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn ysgolion.

Gwelwch ein tudalen i bobl ifanc am ragor o fanylion, os gwelwch yn dda.

E-bost wedi’i warchod

Mae’r tribiwnlys wedi cyflwyno meddalwedd newydd o’r enw ‘Egress Switch’ i’n helpu ni danfon a derbyn gwybodaeth trwy e-bost yn ddiogel. Mae’r gwasanaeth, sydd am ddim ac yn syml i ddefnyddio, yn cynnig ffordd ddiogel i’r tribiwnlys a’i ddefnyddwyr i rannu gwybodaeth sensitif, gan sicrhau bod y tribiwnlys yn bodloni gofynion diogelwch a diogelu data. Os ydych chi’n cyfathrebu â’r tribiwnlys trwy e-bost, darllenwch ein Cwestiynau cyffredin i ganfod sut gall hyn effeithio arnoch.

Llyfrgell Benderfyniadau TAAAC

Ar hyn o bryd mae llyfrgell benderfyniadau TAAAC yn rhestru penderfyniadau apêl a wnaethpwyd rhwng 2010 i 2013.

Cyhoeddir pob penderfyniad yn ddienw. Cafodd pob achos ei ystyried gan TAAAC ar sail ei rinweddau unigol, gan adlewyrchu’r gyfraith fel yr oedd ar adeg gwneud y penderfyniad. Ni fydd yr achosion yn creu cynsail ac ni ddylid dibynnu arnynt i wneud hynny.

Mae’r llyfrgell benderfyniadau i’w gweld o dan yr adran Penderfyniadau ar y wefan hon.