Beth yw anabledd?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi mai nam corfforol neu feddyliol yw anabledd sy’n cael effaith andwyol a sylweddol (mwy na mân effaith neu effaith fach) hirdymor (mwy na blwyddyn neu am weddill oes) ar allu person i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol.
Beth yw’r agweddau ar addysg sy’n dod o dan y Ddeddf Gydraddoldeb?
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu, aflonyddu ar neu erlid rhywun ar sail anabledd mewn perthynas â'r meysydd canlynol o fywyd yr ysgol:
Derbyniadau
Addysg a mynediad i unrhyw fudd-dal, gwasanaeth a chyfleuster
Gwaharddiadau
Mae manylion pellach am yr agweddau hyn ar addysg i’w gweld yn ein llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.
Beth yw gwahaniaethu ar sail anabledd?
Mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn digwydd pan fydd person yn cael ei drin yn waeth (llai ffafriol neu anffafriol) na rhywun arall oherwydd anabledd. Gall gwahaniaethu ar sail anabledd hefyd ddigwydd pan fydd rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau wedi eu rhoi ar waith sy'n rhoi grŵp penodol o ddisgyblion anabl o dan anfantais o'u cymharu â disgyblion nad ydynt yn anabl a bod person anabl yn cael ei roi o dan anfantais o ganlyniad.
Beth yw’r mathau o wahaniaethu?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu bod pobl sydd ag anabledd neu sydd wedi bod ag anabledd yn cael eu diogelu rhag gwahanol fathau o wahaniaethu.
Y rhain yw:
- gwahaniaethu uniongyrchol;
- gwahaniaethu anuniongyrchol;
- gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd;
- methiant i wneud addasiad o fewn rheswm ar gyfer plentyn anabl;
- aflonyddu; neu
- erledigaeth.
Mae manylion pellach am y mathau o wahaniaethu i’w gweld yn ein llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.
Pryd mae modd cyfiawnhau gwahaniaethu?
Er y gall eich plentyn fod wedi ei drin yn anffafriol neu ei fod wedi cael ei roi o dan anfantais, efallai na fydd y gwahaniaethu yn anghyfreithlon os gall yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol ddangos bod cyfiawnhad am hynny.
Mewn achosion o wahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu yn deillio o anabledd, ystyr cyfiawnhau yw gallu dangos bod rheswm cyfreithlon a gwirioneddol dros y driniaeth a bod hyn yn ymateb teg, cytbwys a rhesymol.
Beth am y ddyletswydd i wneud addasiadau o fewn rheswm?
Mae'n rhaid i ysgolion ac Awdurdodau Lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw disgyblion anabl, gan gynnwys plant nad ydynt eto yn yr ysgol ac mewn rhai achosion cyn-ddisgyblion, yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â disgybl heb fod yn anabl.
Gallai cam rhesymol er enghraifft olygu diwygio polisi neu newid y ffordd y gwneir pethau.
Nid oes rhaid i ysgolion newid adeiladau. Mae hyn oherwydd bod gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wella mynediad i adeiladau dros gyfnod o amser.
A yw’n bosibl gwahaniaethu yn erbyn plentyn heb anabledd?
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn golygu bod pobl heb anabledd yn cael eu diogelu rhag rhai mathau o ymddygiad anghyfreithlon, sef:
- gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar gysylltiad
- gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar ganfyddiad
- aflonyddu sy'n gysylltiedig ag anabledd
- erledigaeth sy'n gysylltiedig ag anabledd.
Mae manylion pellach am y mathau o wahaniaethu i’w gweld yn ein llyfryn canllaw sydd i’w lawrlwytho o’r wefan hon.
Pa hawliadau y gall TAAAC ymdrin â nhw?
Mae TAAAC yn ymdrin â'r holl hawliadau sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd, aflonyddu ac erledigaeth yn erbyn ysgolion yng Nghymru, ac eithrio hawliadau am:
- benderfyniadau derbyn disgyblion ysgolion a gynhelir (mae'r rhain yn cael eu clywed gan banel apêl ynghylch derbyn disgyblion ar hyn o bryd)
- gwaharddiadau parhaol o ysgolion a gynhelir (mae'r rhain yn cael eu clywed gan baneli apeliadau gwahardd ar hyn o bryd).
Sut gall rhieni gael gwybodaeth am eu hawliad?
Os bydd rhywun yn credu bod eu plentyn wedi dioddef gwahaniaethu, gallant geisio cael gwybodaeth gan yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol i’w helpu i benderfynu a oes ganddynt hawliad dilys. Os gwneir cais am wybodaeth, nid yw’n rhwym arnoch chi i ateb y cwestiynau dan sylw. Fodd bynnag, os na fyddwch yn eu hateb o fewn 8 wythnos i anfon y ffurflen neu os bernir bod eich atebion yn annelwig neu’n amwys, gall panel y tribiwnlys ystyried hyn wrth wneud ei benderfyniad.
Mae Swyddfa Gydraddoldebau y Llywodraeth (GEO) wedi credu ffurflen benodol i ddarpar hawlydd ei defnyddio (os nid yw hyn yn ofynnol) i holi unrhyw gwestiynau.
Pa gamau eraill y gellid eu cymryd i ddatrys yr anghydfod?
- Gweithdrefn gwynion yr ysgol
- Gwasanaeth Datrys Anghydfod yr Awdurdod Lleol
Ni fydd unrhyw un o’r gweithdrefnau hyn yn effeithio ar hawliad i TAAAC; maent yn gwbl ar wahân i’r broses o wneud hawliad. Gal rhiant wneud hawliad a pharhau â’r dulliau eraill hyn o ddatrys anghydfod os ydynt yn dymuno.
Hyd yn oed ar ôl cyflwyno hawliad, weithiau mae modd datrys anghyfod neu gytuno ar rai agweddau ar yr hawliad drwy eu trafod gyda’r rhiant. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi gwybod i’r Tribiwnlys am unrhyw gytundeb o’r fath.
A all plant wneud eu hawliadau eu hunain?
Gall plant a phobl ifanc wneud eu hawliad eu hunain yn erbyn ysgolion yng Nghymru.
Ni fydd yr hawl newydd i blant wneud eu hawliad eu hunain ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd yn effeithio ar hawliau presennol rhieni. Gall rhiant wneud hawliad o hyd, p’un a yw eu plentyn yn gwneud un ai peidio.
A oes terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad?
Gwneir unrhyw hawliad i TAAAC. Mae’n rhaid i riant wneud hawliad o fewn chwe mis o’r honiad o wahaniaethu neu’r honiad diwethaf o weithred o wahaniaethu.
Gellir ymestyn y terfyn amser hwn os defnyddir Gwasanaeth Cymodi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Pwy yw’r Corff Cyfrifol?
Gwneir hawliadau yn erbyn y Corff Cyfrifol. Dyma’r sefydliad sy’n gyfrifol am yr ysgol – fel arfer Llywodraethwyr yr Ysgol a/neu’r Awdurdod Lleol. Nid yw’n bosibl gwneud hawliadau yn erbyn unigolyn fel y pennaeth.
Beth sy'n digwydd ar ôl cofrestru hawliad?
Byddwn yn eich hysbysu bod yr hawliad wedi’i gofrestru ac yn dweud wrthych pan fydd yn rhaid anfon eich datganiad achos a ffurflen bresenoldeb. Bydd 30 diwrnod gwaith i chi anfon eich datganiad achos a ffurflen bresenoldeb.
Byddwn hefyd yn ysgrifennu at y rhieni i roi’r un faint o amser iddynt anfon eu datganiad achos. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, byddwn yn sicrhau eich bod chi a’r rheini yn gweld eich datganiadau achos eich gilydd.
Byddwn hefyd yn trefnu gwrandawiad. Yn y gwrandawiad, bydd panel tribiwnlys yn ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, yn ogystal ag unrhyw beth y byddwch chi, y rhieni a’r tystion yn ei ddweud. Ein nod fydd cyhoeddi ein penderfyniad o fewn tua 10 diwrnod gwaith wedi’r gwrandawiad.
Mae’r broses gyfan, o dderbyn hawliad i wneud penderfyniad, fel arfer yn cymryd pedwar i bum mis. Gallai gymryd mwy o amser os yw’n achos cymhleth iawn.
Sut ydyn ni’n gwybod ai ni yw’r Corff Cyfrifol?
Mae’r Corff Cyfrifol yn dibynnu ar y math o ysgol a’r amgylchiadau ym mhob achos. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y CorffCyfrifol wedi’i nodi fel yr isod, ond gallai fod eithriadau.
- Ysgol a gynhelir – Llywodraethwyr yr Ysgol fel arfer
- Uned cyfeirio disgyblion – yr Awdurdod Lleol
- Meithrinfa a gynhelir – yr Awdurdod Lleol
- Pob ysgol annibynnol – y perchennog
- Ysgolion arbennig nas cynhelir – y perchennog.
Os nad ydych yn meddwl mai chi yw’r Corff Cyfrifol, dylech ysgrifennu atom ar unwaith i egluro pam.
A oes terfyn amser ar gyfer ymateb i’r hawliad?
Mae terfyn amser llym ar gyfer derbyn y datganiad achos. Byddwn yn dweud wrthych pryd y bydd yn rhaid i chi anfon y datganiad achos a’r ffurflen bresenoldeb. Bydd 30 diwrnod gwaith i chi anfon yr wybodaeth.
Pa wybodaeth y mae angen ei hanfon yn y datganiad achos?
Mae’n rhaid i’r Corff Cyfrifol anfon y canlynol:
- copi o’r penderfyniad sy’n destun anghydfod
- yr holl dystiolaeth i’w defnyddio sydd heb ei hanfon hyd yn hyn
- datganiad achos
Mae’n rhaid bod y datganiad achos:
- yn nodi a yw’r Corff Cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu’r hawliad
- wedi’i lofnodi gan berson ag awdurdod i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran y Corff Cyfrifol
Os yw’r Corff Cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu’r hawliad, mae’n rhaid bod y datganiad achos yn cynnwys y canlynol:
- y rhesymau dros wrthwynebu’r hawliad neu unrhyw ran ohono
- crynodeb o’r ffeithiau
- y rhesymau pam bod y penderfyniad yn destun anghydfod
- y camau a gymerwyd i ddatrys yr anghydfod, os cymerwyd camau o gwbl
- barn y plentyn am y materion yn yr hawliad, NEU
- esboniad pam nad yw’r Corff Cyfrifol wedi canfod beth yw barn y plentyn
- enw a chyfeiriad cynrychiolydd y Corff Cyfrifol
- i ba gyfeiriad y dylid anfon dogfennau ar gyfer y Corff Cyfrifol.
Dylai’ch datganiad achos nodi’r ffeithiau perthnasol o’ch safbwynt chi; yr hyn a ddigwyddodd, anabledd y plentyn, a gwybodaeth gefndir (e.e. polisïau’r ysgol, anawsterau blaenorol).
Mae gwybodaeth bellach am yr hyn y gallech ei nodi a manylu arno yn eich datganiad achos i’w gweld yn ein llyfryn canllaw i’w lawrlwytho o’r wefan hon.
Beth ddylem ni ei wneud ynghylch unrhyw atebion a restrir gan y rhieni?
P’un a ydych chi;n gwrthwynebu’r hawliad cyfan ai peidio, gallwch roi eich barn ar unrhyw atebion y mae’r rhieni yn eu cynnig. Rydym wedi cynnwys adran ddewisol yn y ffurflen gais i rieni gael dweud beth ddylai gael ei wneud i unioni pethau. Os ydynt wedi’i llenwi, gallwch ddweud wrthym i ba raddau y byddai’r mesurau sydd wedi’u hawgrymu yn rhesymol. Os oes gennych chi awgrymiadau i’w cynnig, gallai’r rhain ein helpu i benderfynu ar y camau y dylid eu cymryd.
Beth ddylem ni ei wneud os byddwn yn dod i gytundeb am rai o’r materion yn yr hawliad?
Byddwn ni ond yn derbyn hawliad os ydych chi a’r rhieni yn anghytuno, ond mae’n briodol bod trafodaethau yn parhau rhwng y ddwy ochr ar ôl gwneud hawliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddweud wrthym am unrhyw rannau o’r hawliad rydych chi a’r rhieni wedi’u datrys wedi i ni dderbyn yr hawliad.
A ddylem wrthwynebu’r hawliad?
Mae blwch dewisol ar y ffurflen gais i rieni lle gallant ddweud sut hoffent weld pethau’n cael eu hunioni. Gallai’r rhain fod yn bethau rydych chi’n fodlon eu gwneud heb yr angen am dribiwnlys. Os ydych chi’n cytuno y bu peth gwahaniaethu ond eich bod yn bwriadu unioni pethau, efallai y bydd y rhieni’n fodlon tynnu eu hawliad yn ôl.
A fydd angen cyfreithiwr os byddwn yn gwrthwynebu’r hawliad?
Nid yw cynrychiolaeth gyfreithiol yn hanfodol mewn gwrandawiad tribiwnlys. Ond gallwch ddewis cael cyfreithiwr yn bresennol yn ogystal â’ch cynrychiolydd. Os byddwch yn ymgymghori â chyfreithiwr neu gynrychiolydd arall, dylech wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn gwrthwynebu’r hawliad?
Os na fyddwch yn gwrthwynebu’r hawliad, mae’n rhaid i chi ysgrifennu i nodi hyn erbyn diwedd y cyfnod datganiad achos. Rhaid i chi gynnwys gwybodaeth am y camau rydych chi’n bwriadu eu cymryd i ddod â’r gwahaniaethu i ben. Yna byddwn yn ysgrifennu at y rhiant i ofyn a ydynt yn bwriadu tynnu’r hawliad yn ôl. Os nad ydynt, bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal lle na fydd hawl i’r Corff Cyfrifol fod yn bresennol.
Beth os nad yw’r Corff Cyfrifol yn anfon ymateb?
Os na fydd y Corff Cyfrifol yn ymateb erbyn diwedd y cyfnod, bydd eich hawliad yn cael ei drosglwyddo i Gadeirydd y Tribiwnlys a fydd yn penderfynu ar y camau i’w cymryd. Gallai hyn gynnwys gwrthod i’r Corff Cyfrifol gymryd rhan bellach yn y trafodion.
A oes modd datrys y mater heb wrandawiad?
Yn gyffredinol, y peth gorau i chi fyddai datrys anghydfod drwy gytundeb â’r rhieni. Mae’n briodol trafod y mater ar ôl gwneud hawliad i dribiwnlys.
Mae’n bosibl bod problemau cyfathrebu wedi cyfrannu at yr anghydfod. Gall rhieni droi at wasanaeth cyfryngu annibynnol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Os byddwn yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd cymodi, ceir defnyddio’r hyn sy’n cael ei ddweud mewn cyfarfodydd o’r fath mewn gwrandawiad Tribiwnlys dim ond os byddwch yn cytuno â hynny.
A allaf anfon rhagor o wybodaeth ar ôl y datganiad achos?
Tystiolaeth ysgrifenedig hwyr yw’r enw ar dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer datganiadau achos. Mae cyfyngiadau ynghylch derbyn tystiolaeth ysgrfienedig hwyr. Mae gwybodaeth am y rheolau tystiolaeth hwyr ar gael yn Adran Tystiolaeth Hwyr y Cwestiynau Cyffredin hyn.
A all y Corff Cyfrifol ofyn i fwrw hawliad allan?
Ydy, gall y Corff Cyfrifol wneud cais am resymau cyfyngedig i fwrw hawliad allan. Os bydd y Tribiwnlys yn bwrw’r hawliad allan, bydd yn dod i ben. Dyma’r unig resymau dros fwrw hawliad allan:
- Nid yw wedi’i gwneud yn unol â rheoliadau’r Tribiwnlys;
- Nid yw, neu nid yw bellach, o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;
- Nid yw’n nodi unrhyw reswm teilwng; a/neu
- Mae’n camddefnyddio proses y Tribiwnlys.
Mae’n rhaid gwneud cais ysgrifenedig i fwrw hawliad allan, gan nodi’r rhesymau yn llawn.