Croeso i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru

Tribiwnlys Addysg Cymru yw’r enw newydd ar Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn parhau i wneud penderfyniadau ar apeliadau ynghylch anghenion addysgol arbennig, a rhai ar hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn delio ag anghydfodau’n ymwneud â’r canlynol:

Datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA)

Os ydych yn apelio penderfyniad am ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA), neu benderfyniad a wnaed o dan y system AAA, defnyddiwch y canllawiau ar y wefan hon. Y rhain yw’r canllawiau cywir ar gyfer plant a phobl ifanc yn y system AAA.

Cynlluniau datblygu unigol (CDUau)

Os ydych yn anghytuno â chynllun datblygu unigol (CDU), asesiad o anghenion dysgu ychwanegol, neu hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd, defnyddiwch y canllawiau ar ein gwefan newydd.

Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys

Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post.  Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i  tribiwnlysaddysg@llyw.cymru

Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 9800 i wneud trefniadau eraill.

Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys. 

 

Cofnodi Gwrandawiadau'r Tribiwnlys

Sylwch nad yw'r Tribiwnlys yn recordio gwrandawiadau. Mae'n drosedd i unrhyw un recordio gwrandawiadau'r tribiwnlys, yn cynnwys tynnu ffotograffau, recordiadau sain a fideos.

Apeliadau

Apeliadau

Mae'r canllawiau ar y wefan hon yn berthnasol i apeliadau ynghylch datganiadau o AAA yn unig. Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad am gynllun datblygu unigol (CDU), neu asesiad o anghenion dysgu ychwanegol, defnyddiwch y canllawiau ar y wefan newydd.

Dysgwch fwy
Hawliadau

Hawliadau

Ewch i'n gwefan newydd i gael canllawiau ar honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Dysgwch fwy

Plant a phobl ifanc yn eu harddegau

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, mi gewch chi wybod popeth am apeliadau a hawliadau wrth ddarllen ein llyfrynnau gwybodaeth.

Dysgwch fwy

Awdurdodau Lleol a Chyrff Cyfrifol

Mae ein llyfrynnau canllaw yn rhoi gwybodaeth i Awdurdodau Lleol am sut i ymateb i apêl a gwybodaeth i Gyrff Cyfrifol ynghylch sut i ymateb i hawliadau

Dysgwch fwy

Tribiwnlys Aled

Mae ein clip fideo yn dangos i chi beth sy’n digwydd yng ngwrandawiad tribiwnlys Aled.

Dysgwch fwy

Ein cefndir

Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) yn dribiwnlys annibynnol a sefydlwyd yn 2003 o dan Adran 333 (1ZA) Deddf Addysg 1996. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r tribiwnlys, ond mae’r tribiwnlys, ei aelodau a’r penderfyniadau a gaiff eu gwneud gan TAAAC yn annibynnol ar y Llywodraeth. Mae Adroddiad Blynyddol TAAAC yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ac yn rhoi cyfrif blynyddol ynghylch ei weithgareddau.

Dysgwch fwy

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.