Pwerau’r tribiwnlys

Unwaith y bydd y Tribiwnlys wedi gwrando ar eich apêl neu hawliad ac wedi ystyried y dystiolaeth, bydd y panel yn gwneud penderfyniad ac yn cyhoeddi gorchymyn. Mae’r dudalen hon yn esbonio beth y gall y Tribiwnlys ei orchymyn a beth na all ei orchymyn mewn cyfraith.

Beth y gall y Tribiwnlys ei orchymyn a beth na all ei orchymyn mewn cyfraith.

Apeliadau AAA

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i wneud yr hyn sydd wedi’i orchymyn ac mae’n cael cyfnod penodol o amser i gyflawni ein gorchymyn. Mae ein dogfen ganllaw Cyflawni’n gorchymyn (TAAAC 15) ar gael i’w lawrlwytho isod, neu os hoffech inni anfon copi atoch chi, cysylltwch â ni.

Asesiad

Os yw'r Awdurdod Lleol wedi gwrthod trefnu asesiad ar gyfer eich plentyn gallwn ei orchymyn i wneud hynny.

Gwrthod gwneud datganiad neu rhoi'r gorau i gynnal un

Os yw'r Awdurdod Lleol wedi gwrthod gwneud datganiad gall y Tribiwnlys ei orchymyn i wneud hynny. Ni all y Tribiwnlys, yn yr achos hwn, ddweud wrth yr Awdurdod Lleol beth y dylid ei gynnwys yn y datganiad.

Os yw'r Awdurdod Lleol yn penderfynu peidio â chynnal y datganiad gall y Tribiwnlys ei orchymyn i gynnal y datganiad.

Cynnwys y datganiad

Os yw'r Awdurdod Lleol wedi gwneud datganiad ar gyfer eich plentyn, wedi newid datganiad neu wedi gwrthod newid y datganiad yn dilyn asesiad, gall y Tribiwnlys orchymyn newidiadau i:

  • rhan 2 (anghenion - pam bod eich plentyn angen help)
  • rhan 3 (darpariaeth - yr help y dylid ei roi)
  • rhan 4 (lleoliad - i ble y dylai'ch plentyn fynd i'r ysgol).

Hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd

Mae gan y Corff Cyfrifol ddyletswydd i wneud yr hyn sydd wedi’i orchymyn ac mae’n cael cyfnod penodol o amser i gyflawni ein gorchymyn. Bydd manylion y cyfnod amser i’w hwn i’w cael yn ein gorchymyn. Mae ein dogfen ganllaw Gweithredu ein gorchymyn (TAAAC 16) ar gael i’w lawrlwytho isod, neu os hoffech inni anfon copi atoch cysylltwch â ni.

Os yw'r Tribiwnlys yn penderfynu bod yna wahaniaethu ar sail anabledd, gallwn orchymyn unrhyw gamau gweithredu yr ystyriwn yn rhesymol i wneud yn iawn am effaith y gwahaniaethu hwnnw. Ni all y Tribiwnlys orchymyn iawndal ariannol.

Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • hyfforddi staff ysgol
  • llunio canllawiau newydd i staff
  • rhoi hyfforddiant ychwanegol i wneud yn iawn am golli dysgu
  • rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig
  • trefnu tripiau neu gyfleoedd eraill i wneud yn iawn am weithgareddau y gallai eich plentyn fod wedi'u colli.