Apeliadau

Mae'r canllawiau ar y wefan hon yn berthnasol i apeliadau ynghylch datganiadau o AAA yn unig. Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad am gynllun datblygu unigol (CDU), neu asesiad o anghenion dysgu ychwanegol, defnyddiwch y canllawiau ar y wefan Tribiwnlys Addysg Cymru.

Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc yn ei arddegau rydych chithau hefyd yn gallu gwneud apêl drosoch eich hun drwy ddweud wrthon ni eich bod yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â'ch addysg. Os mai dyna rydych ei eisiau, gallwch ofyn i oedolyn eich helpu i lenwi'r ffurflen apêl.

Mae ein ffurflenni a’n llyfrynnau canllaw ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y we drwy ddefnyddio’r dolenni isod, neu os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni. Rhaid cyflwyno apeliadau yn ysgrifenedig i TAAAC.

Ffurflenni

  • Cais am Apêl. Pan fydd Awdurdod lleol yn gwneud penderfyniadau penodol am anghenion addysgol arbennig plentyn neu berson ifanc yn ei arddegau a bod y rhieni neu'r person ifanc yn anghytuno â'r penderfyniad, gallant wneud cais am apêl yn gofyn i TAAAC ystyried y penderfyniad. (Cais am Apêl – Ffurflen TAAAC 2) 
  • Tynnu apêl yn ôl. Gallwch lenwi ein ffurflen i roi gwybod i ni os ydych yn penderfynu nad ydych bellach am barhau â'r apêl. (Tynnu Apêl neu Hawliad yn ôl – Ffurflen TAAAC 14)

Llyfrynnau Canllaw

Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc yn ei arddegau, efallai y bydd y dudalen Plant a Phobl Ifanc ar ein gwefan yn ddefnyddiol. Gallwch ofyn i oedolyn eich helpu gyda’r apêl.

  • Sut i Apelio. Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud apêl, terfynau amser pwysig ar gyfer gwneud yr apêl, y math o wybodaeth y mae angen i ni ei chael a beth sy'n digwydd ar ôl i'r apêl gael ei gwneud. (Sut i Apelio – Llyfryn Canllaw TAAAC 1)
  • Rydw i wedi gwneud apêl; sut mae paratoi Datganiad Achos? Ar ôl i chi wneud eich apêl, byddwn yn gofyn ichi adael i ni gael eich datganiad achos. Mae ein llyfryn canllaw yn esbonio sut mae paratoi datganiad achos a pha wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni. (Rydw i wedi gwneud apêl; sut mae paratoi Datganiad Achos? - Llyfryn Canllaw TAAAC 5)