Gwrandawiadau tribiwnlys

Fel arfer, bydd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) am gael gwybod am yr apêl a’r hawliad mewn gwrandawiad tribiwnlys.

Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthon ni pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig beth yw enwau pawb a fydd yn bresennol yn y gwrandawiad tribiwnlys ynghyd â'r dyddiad a'r trefniadau ar ei gyfer.

Efallai y bydd y wybodaeth sydd ar y dudalen Plant a Phobl Ifanc ar ein gwefan hefyd yn ddefnyddiol i blant a phobl ifanc. Os mai dyna rydych ei eisiau, gallwch ofyn i oedolyn eich helpu i lenwi'r ffurflenni.

Mae ein clip fideo yn dangos i chi beth sy’n digwydd yng ngwrandawiad tribiwnlys Aled.

Gallwch lawrlwytho ein ffurflenni a’n llyfrynnau canllaw oddi ar y we drwy ddefnyddio’r dolenni isod, neu os ydych chi am i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.

Ffurflenni

  • Rydw i wedi gwneud Apêl neu Hawliad: Ffurflen Presenoldeb. Bydd angen i chi lenwi ein ffurflen i ddweud wrthon ni pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad tribiwnlys. (Rydw i wedi gwneud Apêl neu Hawliad: Ffurflen Presenoldeb – Ffurflen TAAAC 10)
  • Awdurdod Lleol neu Gorff Cyfrifol: Ffurflen Presenoldeb. Bydd angen i chi lenwi ein ffurflen i ddweud wrthon ni pwy fydd yn dod gyda chi i'r gwrandawiad tribiwnlys. (Awdurdod Lleol neu Gorff Cyfrifol: Ffurflen Presenoldeb – Ffurflen TAAAC 12)

Llyfrynnau Canllaw

  • Rydw i wedi gwneud Apêl neu Hawliad: Canllawiau ar y Ffurflen Presenoldeb. Mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu i lenwi’ch ffurflen presenoldeb. (Rydw i wedi gwneud Apêl neu Hawliad: Canllawiau ar y Ffurflen Presenoldeb – Llyfryn Canllaw TAAAC 9)
  • Awdurdod Lleol neu Gorff Cyfrifol: Canllawiau ar y Ffurflen Presenoldeb.Mae ein llyfryn canllaw i Awdurdodau Lleol a Chyrff Cyfrifol yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu i lenwi’ch ffurflen presenoldeb. (Awdurdod Lleol neu Gorff Cyfrifol: Canllawiau ar y Ffurflen Presenoldeb – Ffurflen TAAAC 11)