Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) yn dribiwnlys annibynnol a sefydlwyd yn 2003 o dan Adran 333 (1ZA) Deddf Addysg 1996. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r tribiwnlys, ond mae’r tribiwnlys, ei aelodau a’r penderfyniadau a gaiff eu gwneud gan TAAAC yn annibynnol ar y Llywodraeth. Mae Adroddiad Blynyddol TAAAC yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ac yn rhoi cyfrif blynyddol ynghylch ei weithgareddau.
Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn delio ag anghydfodau’n ymwneud â’r canlynol:
Datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA)
Os ydych yn apelio penderfyniad am ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA), neu benderfyniad a wnaed o dan y system AAA, defnyddiwch y canllawiau ar y wefan hon. Y rhain yw’r canllawiau cywir ar gyfer plant a phobl ifanc yn y system AAA.
Cynlluniau datblygu unigol (CDUau)
Os ydych yn anghytuno â chynllun datblygu unigol (CDU), asesiad o anghenion dysgu ychwanegol, neu hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd, defnyddiwch y canllawiau ar ein gwefan newydd.
Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys
Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post. Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i tribiwnlysaddysg@llyw.cymru.
Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 9800 i wneud trefniadau eraill.
Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.
Cofnodi Gwrandawiadau'r Tribiwnlys
Sylwch nad yw'r Tribiwnlys yn recordio gwrandawiadau. Mae'n drosedd i unrhyw un recordio gwrandawiadau'r tribiwnlys, yn cynnwys tynnu ffotograffau, recordiadau sain a fideos.
Apeliadau
Mae'r canllawiau ar y wefan hon yn berthnasol i apeliadau ynghylch datganiadau o AAA yn unig. Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad am gynllun datblygu unigol (CDU), neu asesiad o anghenion dysgu ychwanegol, defnyddiwch y canllawiau ar y wefan newydd.
Hawliadau
Ewch i'n gwefan newydd i gael canllawiau ar honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.
Plant a phobl ifanc yn eu harddegau
Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, mi gewch chi wybod popeth am apeliadau a hawliadau wrth ddarllen ein llyfrynnau gwybodaeth.
Awdurdodau Lleol a Chyrff Cyfrifol
Mae ein llyfrynnau canllaw yn rhoi gwybodaeth i Awdurdodau Lleol am sut i ymateb i apêl a gwybodaeth i Gyrff Cyfrifol ynghylch sut i ymateb i hawliadau
Tribiwnlys Aled
Mae ein clip fideo yn dangos i chi beth sy’n digwydd yng ngwrandawiad tribiwnlys Aled.
Ein cefndir
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.