Gall defnyddwyr y Tribiwnlys roi adborth i’r Tribiwnlys:
- yn ysgrifenedig
- trwy ffacs
- trwy e-bost
- trwy ffôn
- yn bersonol.
Croesawn adborth ar bob agwedd ar ein gwaith er mwyn gwella ein gwasanaeth. Ond os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol am y gwasanaeth a ddarparwn, defnyddiwch ein gweithdrefn cwynion sydd yn rhoi manylion am sut i gwyno ac i bwy y dylech gwyno.
Os ydych eisiau rhoi adborth i ni defnyddiwch yr wybodaeth ar ein tudalen ‘Cysylltu’.
Mae cyfle hefyd i roi adborth i ni ar ddiwedd y broses apelio neu hawlio trwy lenwi ein Arolwg Bodlonrwydd Cwsmeriaid.